Thesews

From Wikipedia, the free encyclopedia

Thesews
Remove ads

Arwr a brenin Athen ym mytholeg Roeg oedd Thesews[1] (Thiséas - Hen Roeg: Θησεύς; Saesneg Theseus). Roedd yn fab i Aethra a'r duw Poseidon.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dod i'r brig ...
Thumb
Thesews yn lladd y Minotor (1843), cerflun gan Antoine-Louis Barye

Dywedir fod ganddo balas ar safle'r Acropolis, ac mai ef a unodd Atica gyntaf. Yn Y Llyffantod, dywed Aristophanes mai ef a sefydlodd lawer o draddodiadau Athen.

Yn ôl un chwedl, roedd Athen yn gorfod gyrru saith dyn ieuanc a saith merch ieuanc i Minos, brenin Creta bob blwyddyn fel teyrnged, a byddent yn cael eu bwydo i'r Minotor, anghenfil oedd yn hanner dyn a hanner tarw, oedd wedi ei genhedlu gan darw ar Pasiphaë, gwraig Minos. Ymunodd Thesews a'r rhai oedd yn cael eu gyrru i Minos un flwyddyn, a chyda chymorth Ariadne, merch Minos, lladdodd y Minotor.

Yn ôl traddodiad, claddwyd ef yn yr Hephaisteion yn Athen.

Mae Thesews i'w weld yn y ddrama Oidipos yn Colonos.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads