rhaglen deledu From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres deledu am geir yw'r The Grand Tour. Fe'i cyflwynwyd gan dri gŵr, Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May, a chynhyrchwyd y gyfres gan Andy Wilman ar gyfer Amazon Video.[3] Cytunodd y pedwar i greu'r gyfres yn dilyn eu hymadawiad o raglen Top Gear y BBC ar ddechrau 2016. Cytunodd y pedwar i wneud 36 o raglenni dros gyfnod o dair blynedd.[5][6] Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf (ar 18 Tachwedd 2016) yng ngwledydd Prydain, UDA, yr Almaen, Awstria a Japan a darlledir y rhaglenni'n wythnosol.[7][8] Yna darlledir y sioe mewn tua 200 o wledydd eraill ar draws y byd o Ragfyr 2016 ymlaen.[9]
Genre | |
---|---|
Cyfarwyddwyd gan |
|
Cyflwynwyd gan |
|
Yn serennu | Mike Skinner |
Thema agoriadol | "I Can See Clearly Now" |
Cyfansoddwr/wyr | Paul Leonard-Morgan |
Gwlad | |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol | Andy Wilman[3] |
Cynhyrchydd/wyr |
|
Golygydd(ion) |
|
Sinematograffi | Ben Joiner |
Gosodiad camera | Aml-gamera |
Hyd y rhaglen | c.60–71 munud[4] |
Cwmni cynhyrchu |
|
Dosbarthwr | Amazon.com |
Rhwydwaith gwreiddiol | Amazon Video |
Fformat y llun | Cydraniad 4K (Ultra HD) 23.98fps HDR[4] |
Darlledwyd yn wreiddiol | 18 Tachwedd 2016 |
Gwefan swyddogol |
Dechreuwyd ar y recordio mewn stiwdios yn Johannesburg, De Affrica, ar 17 Gorffennaf 2016 ac yn Ne Califfornia, Unol Daleithiau America ar 25 Medi 2016 ac yna yn Nashville ar 21 Medi 2016.[10][11] Yn Whitby, Lloegr a recordiwyd y gwaith stiwdio gan gychwyn ar 13 Hydref.[12] ac yna yn Loch Ness yn Rhagfyr. Recordiwyd peth o'r ffilm hefyd mewn stiwdios yn Rotterdam ar 22 Hydref 2016 a Lapland ar 3 Tachwedd 2016.[13][14] Stuttgart is listed as the upcoming destination.[15][16]
Mae gan y rhaglen ei drac gyrru ei hun, sef yr "Eboladrome" yn[RAF Wroughton ger Swindon. Dywed Clarkson i'r enw ddeillio o siap y feirws Ebola. Fe'i cynlluniwyd i dowlu'r car ("trip cars up") meddai a cheir enwau i rannau o'r trac ee "Isn't Straight," "Old Lady's House," a "Your Name Here". Prif yrrwr ceir y trac yw Mike Skinner, a elwir hefyd "The American".
Y car cyntaf i'w brofi ar y trac oedd BMW M2 (2016) - un o hoff geir Clarckson, ac a yrrwyd gan Skinner mewn 1:24.3 eiliad.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.