ffilm comedi rhamantaidd a ffilm ramantus gan Michel Hazanavicius a gyhoeddwyd yn 2011 From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm gomedi ramantaidd Ffrengig yw The Artist a ryddhawyd yn 2011, a gyfarwyddwyd gan Michel Hazanavicius ac yn serennu Jean Dujardin a Bérénice Bejo. Lleolir yn Hollywood rhwng 1927 a 1932 ac mae'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng seren ffilm fud ac actores ifanc wrth i ffilmiau sain ddod yn boblogaidd. Mae mwyafrif y ffilm yn fud, heblaw am drac sain cerddorol.
The Artist | |
---|---|
Logo'r ffilm | |
Cyfarwyddwyd gan | Michel Hazanavicius |
Cynhyrchwyd gan | Thomas Langmann |
Awdur (on) | Michel Hazanavicius |
Yn serennu | Jean Dujardin Bérénice Bejo |
Cerddoriaeth gan | Ludovic Bource |
Sinematograffi | Guillaume Schiffman |
Golygwyd gan | Anne-Sophie Bion Michel Hazanavicius |
Stiwdio | La Petite Reine ARP Sélection Studio 37 La Class Americane France 3 Cinema U Film Jouror Productions JD Prod Wild Bunch |
Dosbarthwyd gan | Warner Bros. (Ffrainc) The Weinstein Company (UDA/Awstralia) Entertainment Film Distributors (DU) |
Rhyddhawyd gan | 15 Mai 2011 (Cannes) 12 Hydref 2011 (Ffrainc) |
Hyd y ffilm (amser) | 100 munud |
Gwlad | Ffrainc |
Iaith | Mud Teitlau Saesneg |
Cyfalaf | $15 miliwn |
Gwerthiant tocynnau | $133,432,856[1] |
Yng Ngwobrau Ffilm yr Academi Brydeinig, enillodd The Artist saith gwobr: Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Actor Gorau (Dujardin), Sgript Wreiddiol Orau, Sinematograffeg, Dylunio Gwisgoedd, a Sgôr Wreiddiol. Enillodd tri Golden Globe: Ffilm Orau (Sioe gerdd neu Gomedi), Actor Gorau (Sioe gerdd neu Gomedi), a Sgôr Gerddorol Orau. Yn 84fed seremoni wobrwyo yr Academi, enillodd y ffilm pump Oscar: Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Actor Gorau, Dylunio Gwisgoedd, a Sgôr Wreiddiol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.