Teotihuacán

From Wikipedia, the free encyclopedia

Teotihuacán

Dinas frodorol ym Mecsico oedd Teotihuacan (o'r Nahwatleg Teōtihuácān, "lle i wneud duwiau"). Hi oedd dinas fwaf poblog canolbarth America yn y cyfnod cyn y goncwest Sbaenaidd. Ar ei huchafbwynt, roedd y boblogaeth rhwng 150,000 a 200,000.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Teotihuacán
Thumb
Mathsafle archaeolegol, safle hanesyddol 
TeotihuacanPronunciation.ogg, Teotiwakan.ogg, De-Teotihuacan.ogg 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMesoamerica 
LleoliadTeotihuacán de Arista 
SirTalaith Mecsico 
Gwlad Mecsico
Arwynebedd250 ha, 3,118.15 ha 
Cyfesurynnau19.6925°N 98.8439°W 
Cyfnod daearegolpre-Columbian era, Mesoamerica 
Thumb
Arddull pensaernïolTalud-tablero 
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, eiddo diwylliannol, cadwriaethol 
Manylion
Cau

Saif Teotihuacán 40 km i'r gogledd-ddwyrain o Ddinas Mecsico, gerllaw trefi San Juan Teotihuacan a San Martín de las Pirámides, yn nhalaith Mecsico. Blodeuodd y ddinas yn y canrifoedd hyd at tua 600 OC; erbyn yr 8g roedd y trigolion wedi ymadael. Nid oes sicrwydd o ba grŵp ethnig yr oedd y preswylwyr.

Thumb
Golygfa o ben Pyramid y Lleuad

Dynodwyd y safle yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987. Caiff fwy o ymweliadau gan dwristiaid nag unrhyw safle archaeolegol arall ym Mecsico.

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.