From Wikipedia, the free encyclopedia
Teisen sbwnj yw teisen Fadeira sydd yn fwyd traddodiadol yng nghoginiaeth Seisnig. Mae ganddi ansawdd gadarn ond ysgafn ac yn draddodiadol fe'i blasir â lemwn. Bwyteir yn aml am de'r prynhawn,[1] neu weithiau am frecwast.[2] Mae'n debyg i deisen felen neu deisen driphwys syml.
Dyddia hanes y deisen Fadeira yn ôl i rysáit wreiddiol yn y 18fed neu 19g,[3][4] yn bosib o Fryste.[1] Mae nifer o bobl yn tybio y daw'r deisen o Ynysoedd Madeira, ond yn wir cafodd ei henwi am win Madeira, oedd yn boblogaidd yn Lloegr ar y pryd[3][5] ac oedd yn mynd gyda'r deisen yn y rysáit wreiddiol.[3] Y dyddiau hyn arlwyir y deisen â the neu wirodydd.[4]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.