Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Croesgadwr o Normaniad a Thywysog Galilea oedd Tancred (c.1078 - 1112). Arweiniodd y Groesgad Gyntaf yn y Lefant.
Cymerai ran flaenllaw yng ngwarchae Antioch a chwncwest Jeriwsalem yn 1099.
Am gyfnod bu'n Regent Antioch (1101 - 1103; 1104-1112) ar ran Bohemond I, Tywysog Antioch.
Yn 1110 ail-gipiodd castell strategol Krak des Chevaliers (yng ngorllewin Syria heddiw).
Ceir portread cofiadwy a dylanwadol o Dancred yn arwrgerdd fawr Torquato Tasso, Gerusalemme liberata (1575), lle y'i portreadir fel y Croesgadwr sifalriaidd delfrydol.
Ysgrifennwyd bywgraffiad Tancred yn yr iaith Ladin gan Ralph o Caen, a fu'n llygad-dyst i yrfa ei arwr ym Mhalesteina gan wasanaethu dano fo a Bohemund.
Mae carwriaeth Tancred a'r rhyfelferch Fwslemaidd Clorinda yn cael ei bortreadu mewn sawl opera a phaentiad.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.