actores a aned yn 1961 From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Susan Boyle (ganed 1 Ebrill 1961)[1] yn gantores o'r Alban a ddaeth i sylw'r cyhoedd ar yr 11eg o Ebrill pan ymddangosodd fel cystadleuydd yn y drydedd gyfres o'r rhaglen deledu Britain's Got Talent. Derbyniodd lawer o sylw gan y Wasg pan ganodd "I Dreamed a Dream" o'r sioe gerdd "Les Misérables" yn rownd gyntaf y gystadleuaeth.
Susan Boyle | |
---|---|
Ganwyd | Susan Magdalane Boyle 1 Ebrill 1961 Blackburn, Blackburn |
Label recordio | Columbia Records, Sony Music Entertainment |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Math o lais | mezzo-soprano |
Gwefan | http://www.susanboylemusic.com/, http://www.susanboylemusic.com |
Cyn iddi ganu, edrychai'r beirniaid a'r gynulleidfa yn amheus arni oherwydd ei phryd a'i gwedd. Fodd bynnag, ystyriwyd ei pherfformiad lleisiol mor llwyddiannus nes iddi gael ei hystyried fel "Y Wraig a Gaeodd Pen Simon Cowell."[2] Recordiwyd y clyweliad ym mis Ionawr 2009, yn Awditoriwm Clyde yn Glasgow, yr Alban.
Yn sgîl y cyferbyniad rhwng argraff gyntaf y gynulleidfa ohoni a'i llais, derbyniodd sylw yn fyd-eang. Ymddangosodd erthyglau amdani mewn papurau newydd ledled y byd, tra bod y nifer o bobl a wyliodd fideos o'i chlyweliad ar y wê wedi gosod record newydd.[3] Erbyn yr 20fed o Ebrill, 9 diwrnod yn unig ar ôl ei hymddangosiad cyntaf ar y teledu, roedd fideos firol, cyfweliadau â Boyle a'i fersiwn 1999 o "Cry Me a River" wedi cael eu gwylio dros 100 miliwn o weithiau ar y wê.[4] Dywedir fod Simon Cowell yn creu cytundeb iddi gyda'i label recordio Syco Music, is-gwmni Sony Music.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.