math o blanhigyn From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Sorgwm deuliw (Lladin: Sorghum bicolor) yn rhywogaeth o laswellt sy'n cael ei gynaeafu am ei rawn (yr had), ac a ddefnyddir fel bwyd pobol, anifeiliaid, ac i gynhyrchu ethanol. Tarddodd Sorgwm yn Affrica, ac mae bellach yn cael ei dyfu'n helaeth mewn rhanbarthau trofannol ac isdrofannol.[2] Sorgwm yw'r pumed grawnfwyd pwysicaf y byd ar ôl reis, gwenith, indrawn a haidd, gyda 59.34 miliwn o dunelli metrig yn cael ei gynhyrchu'n fyd-eang yn flynyddol yn 2018.[3]
Mae S. bicolor fel arfer yn blanhigyn unflwydd, ond mae rhai mathau'n lluosflwydd. Tyf mewn clystyrau a all gyrraedd dros 4m o uchder. Gall y grawn amrywio o 2 i 4mm mewn diamedr. Tyfir Sorgwm melys (math arall o Sorgwm) yn bennaf ar gyfer porthiant anifeiliaid, cynhyrchu surop, ac ethanol; maent yn dalach na'r rhai sy'n cael eu tyfu am rawn.[4][5]
Prif gynhyrchwyr S. bicolor yn 2011 oedd Nigeria (12.6%), India (11.2%), Mecsico (11.2%), ac Unol Daleithiau America (10.0%).
Mae Sorghum yn tyfu mewn ystod eang o dymheredd, uchder ac mewn priddoedd gwenwynig, a gall adfer tyfiant ar ôl rhywfaint o sychder. Mae ganddo bum nodwedd sy'n ei gwneud yn un o'r cnydau mwyaf gwrthsefyll, mewn cyfnod o sychder:
Mae ganddo gymhareb arwynebedd gwraidd-i-ddeilen fawr iawn.
Ar adegau o sychder, mae'n rholio ei ddail i leihau colli dŵr trwy drydarthiad.
Os bydd sychder yn parhau, mae'n mynd i gysgu yn hytrach na gwywo.
Mae ei ddail yn cael eu gwarchod gan gwtigl cwyraidd.
Mae'n defnyddio gosodiad carbon C4 gan ddefnyddio traean o ddŵr yn unig.
Ni ellir bwyta Sorghum oni bai bod y masgl anhydrin (neu'r plisg) yn cael ei dynnu. Yn ystod y fasnach gaethweision drawsatlantig, "yr unig ffordd i gael gwared ar y masg oedd â llaw, gyda morter a phestl, neu ddwy garreg.
Mae'r dystiolaeth archeolegol cyntaf o sorgwm yn Nabta Playa ar lan afon y Nîl Uchaf, c. 8000 CC. Fodd bynnag, mae'r rhain yn sorgwm gwyllt, gyda grawn bach a rachis brau. Credir bod Sorgwm wedi'i ddofi o'r Sorghum verticilliform gwyllt rhwng 7000 a 5000 CC, efallai yn nyffryn Afon Niger.[6][7][8]