Socrates

athro, athronydd, ysgrifennwr From Wikipedia, the free encyclopedia

Socrates

Athronydd cynnar a hynod ddylanwadol o Athen, gwlad Groeg, oedd Socrates (Groeg: Σωκράτης): ef yn ôl llawer a osododd sylfeini athroniaeth Orllewinol. Fe'i ganwyd oddeutu 470 CC, ac fe fu farw yn 399 CC yn Athen.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Socrates
Thumb
Ganwyd469 CC 
Alopeke, Athen 
Bu farw15 Chwefror 399 CC 
o yfed o'r cegid 
Athen 
Man preswylAthen yr henfyd 
DinasyddiaethAthen yr henfyd 
Galwedigaethathronydd, athro, llenor, moesegydd 
Prif ddylanwadAnaxagoras, athroniaeth cyn-Socratig, sophist 
TadSophroniscus 
MamPhaenarete 
PriodXanthippe, Myrto 
PlantLamprocles, Menexenus 
Cau

Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ymchwilio'n frwd i'r syniad o ddoethineb, trwy ddadlau a rhesymu gyda chyfeillion, disgyblion ac athronyddwyr yr oes. Ym mhen amser, daethpwyd i'w adnabod fel y dyn mwyaf doeth yng Ngroeg.

Roedd gan bobl farnau tra-gwahanol am Socrates: rhai yn uchel eu parch ohono, eraill yn ei gollfarnu. Roedd ganddo ddilynwyr brwd (megis Platon), a gelynion ffyrnig yn ogystal.

Yn hen ddyn, fe syrthiodd i warth awdurdodau gwladwriaeth Athen. Fe'i gorchmynwyd i ymatal rhag ymddiddan cyhoeddus, ac i beidio ymwneud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer.

Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fe'i cyhuddwyd o lygru moes pobl ifanc, dyfeisio duwiau newydd, ac anffyddiaeth, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o gegid.

Darllen pellach

  • Bettany Hughes. The Hemlock Cup: Socrates, Athens and the Search for the Good Life (Jonathan Cape, 2010).
  • Plato. Amddiffyniad Socrates, cyfieithwyd o'r Roeg gan D. Emrys Evans. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1936)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.