sbeis a wneir o risgl coeden From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae sinamon yn sbeis a geir o risgl mewnol sawl rhywogaeth o goed o'r genws Cinnamomum. Mae'r sinamon mwyaf cyffredin yn dod o'r goeden Asiaidd, Cinnamomum verum, ac iddi risgl persawrus, sbeis a geir o’r rhisgl hwn yw sinamon (ceir hefyd sinamwn). Defnyddir yr enw canel hefyd yn y Gymraeg sy'n debyg i'r enw mewn nifer o ieithoedd Romáwns.[1][2] Defnyddir y gair sinamon yn ffigurol i ddisgrifio'r lliw melynfrown.[3]
Enghraifft o'r canlynol | cynhwysyn bwyd, crude drug, herbal medicinal product |
---|---|
Math | sbeis |
Deunydd | rhisgl |
Rhan o | Turkish cuisine, Catalan cuisine |
Dechrau/Sefydlu | 2000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
Cynnyrch | Cinnamon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ei flas yn felys ac mae ganddo arogl dwys iawn. Mae'n dod yn wreiddiol o Sri Lanka, er ei fod bellach yn cael ei drin hefyd yn Ne America ac India'r Gorllewin.[4]
Roedd sinamon eisoes yn bresennol yn niwylliant Tsieina cyn 2700 CC. Cyrhaeddodd Ewrop yn ystod y cyfnod clasurol trwy lwybrau masnach Gwlad Groeg ac Ymerodraeth Rhufain gydag India, Arabia ac Ethiopia.[2] Yn ystod y cyfnod hwn ymgorfforodd yr Eifftiaid canel yn eu defodau crefyddol a'u dulliau o greu mymïaid, ac yn ddiweddarach, roedd hefyd yn bresennol yn defodau crefyddol yr Oesoedd Canol yn Ewrop.[4]
Cyrhaeddodd y fasnach sinamon ei hanterth yn ystod yr oes fodern. Bryd hynny roedd yn cael ei ystyried yn gynnyrch moethus ac achosodd hyn gystadleuaeth fasnachol rhwng sawl ymerodraeth. Bu'r Portiwgaliaid, yr Iseldirwyr a'r Saeson yn ymgiprys i gael monopoli arno ar wahanol gyfnodau, a chredir mai dyna arweiniodd y morwr a'r fforiwr o Bortiwgal, Vasco da Gama, i "ddarganfod" y llwybr i Penrhyn Gobaith Da yn ystod yr 16g er mwyn 'cyrraedd Sri Lanka ac India yn haws o Ewrop.'[4][5]
Mae'r gair "sinamon" yn fenthyciad drwy'r Saesneg sydd, ei hun yn dod o Hen Roegeg κιννάμωμον ("kinnámōmon", yn hwyrach, "κίνναμον": kínnamon), drwy'r iaith Ladin a Ffrangeg Canol. Benthycodd y Groegiaid y gair o iaith y Ffeniciaid, sy'n debyg i'r iaith cytras Hebraeg קנמון, (qinnāmōn).[6]
Ceir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf o'r gair sinamon (yn ei ffurf "sinamwn") yn y Gymraeg yn un o gerddi Guto'r Glyn o'r 15g.[3] Daw o'i gerdd, 'Moliant i Sieffrai Cyffin ap Morus o Groesoswallt a’i wraig, Siân ferch Lawrence Stanstry':[7]
Sinsir a welir ar fwyd
a graens da rhag yr annwyd.
Sinamwn, clows a chwmin,
siwgr, mas, i wresogi’r min.
Ceir hefyd y gair "canel" sy'n fenchyciad o'r Saesneg Canol canel, canelle ‘canel, cinnamon’ neu o’r Lladin Diweddar, canella sy'n fychanig o 'canna' sy'n golygu "tiwb" ac yn cyfeirio at y ffordd bydd y rhusgl yn cwrlio a chreu tiwb wrth sychu.[8] Mae'r cofnod cynharaf o'r gair yma yn y Gymraeg yn mynd nôl i'r 14g.[1]
Mae sinamon fel arfer yn cael ei gyflwyno mewn math o focs i gadw'r rhisgl yn sych neu ar ffurf powdr.[2]
Fe'i cesglir yn ystod y tymor gwlyb, gan dorri egin y planhigyn ar waelod y ddaear. Yna mae'r rhisgl wedi'i wahanu, gan ei grafu â gwahanol fathau o gyllell a'i blicio. Mae'r dalennau yn cael eu gadael i sychu am bedwar neu bum diwrnod, ac yna eu sgriwio gyda'i gilydd i ffurfio rholyn. Yna cânt eu gadael i sychu eto yng ngolau'r haul. Yn olaf, maent wedi'u afliwio â sylffwr deuocsid.[4]
Mae dau fath o sinamon:[9]
Rhaid ei gadw mewn cynhwysydd aerglos i ffwrdd o olau. Mae arogl sinamon mewn casgen yn para tua blwyddyn, tra bod arogl llawer yn para ychydig fisoedd yn unig.[13]
Am bob 100 gram o sinamon ceir:[14]
Mae sinamon hefyd yn cynnwys aldehyde sinamig.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.