Gwleidydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn-wleidydd o Gymro yw Simon Thomas (ganwyd 28 Rhagfyr 1963) a oedd yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru. Bu'n Aelod Seneddol dros Etholaeth Ceredigion rhwng 2000 a 2005. Enillodd y sedd mewn is-etholiad yn 2000 ar ôl i Cynog Dafis ymddiswyddo i ganolbwyntio ar ei waith fel aelod o'r Cynulliad dros Geredigion. Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011, fe'i etholwyd yn aelod dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ond ymddiswyddodd fel Aelod Cynulliad ac o Blaid Cymru yng Ngorffennaf 2018.
Simon Thomas | |
---|---|
Aelod o Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin | |
Yn ei swydd 6 Mai 2011 – 25 Gorffennaf 2018 | |
Rhagflaenwyd gan | Nerys Evans |
Dilynwyd gan | Helen Mary Jones |
Aelod Seneddol dros Geredigion | |
Yn ei swydd 4 Chwefror 2000 – 11 Ebrill 2005 | |
Rhagflaenwyd gan | Cynog Dafis |
Dilynwyd gan | Mark Williams |
Manylion personol | |
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1963 |
Cenedligrwydd | Cymru |
Cysylltiadau gwleidyddol arall | Plaid Cymru (hyd at 2018) |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth |
Mae Thomas yn hannu o Gwmaman a mynychodd Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr yn Nhrecynon ger Aberdâr. Enillodd Baglor y Celfyddydau yn yr iaith Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth ym 1985, a Diploma ôl-raddedig o Goleg Llyfrgellyddiaeth Cymru yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth ym 1988.
Bu'n guradur cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1986–1992. O 1992–1994, bu'n Swyddog Polisi ac Ymchwil ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Tâf-Elai, ac o 1994–2000, bu'n reolwr Datblygaeth Cefn Gwlad ar gyfer yr asiantaeth datblygu JIGSO.
Ymddiswyddodd fel Aelod Cynulliad ac fel aelod o Blaid Cymru ar 25 Gorffennaf 2018 yn sgîl ymchwiliad heddlu i honiadau o "natur ddifrifol".[1] Cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi arestio unigolyn ar amheuaeth o fod â “delweddau anweddus” yn ei feddiant.[2]
Cynigiwyd y sedd i'r nesaf ar y rhestr rhanbarthol, sef Helen Mary Jones, ac ar 2 Awst 2018 cadarnhawyd y byddai'n cymryd y sedd a dychwelyd i'r Cynulliad.[3]
Ymddangosodd Thomas yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 3 Hydref 2018 lle plediodd yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.[4] Ar 31 Hydref 2018, yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug, cafodd ddedfryd o 26 wythnos o garchar wedi ei ohirio. Fe'i roddwyd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd.[5]
Mae'n briod â Gwen, merch y bardd a'r academydd Gareth Alban Davies. Mae ganddynt mab a merch.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Cynog Dafis |
Aelod Seneddol dros Geredigion 2000–2005 |
Olynydd: Mark Williams |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
Rhagflaenydd: Nerys Evans |
Aelod Cynulliad dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru 2011–2018 |
Olynydd: Helen Mary Jones |
Mae'n byw nid nepell o Ysgol Llwyn yr Eos yn ardal Penparcau, Aberystwyth.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.