Simon Brooks

academydd a darlithydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia

Academydd yw Dr Simon Brooks (ganwyd 11 Ebrill 1971).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Simon Brooks
Ganwyd11 Ebrill 1971 
Dinasyddiaeth Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, golygydd, academydd 
Cau

Rhwng 1996 a 2007, bu'n olygydd y cylchgrawn materion cyfoes Barn, bu hefyd yn gyd-olygydd y cylchgrawn Tu Chwith rhwng 1993 a 1996. Yn 2009, cyhoeddwyd casgliad o'i ohebyddiaeth yn Barn. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymuned; bu'n gyfrifol am weinyddu'r swyddfa ganolog a bu'n aml yn siarad â'r cyfryngau am y mudiad rhwng 2001 and 2004.

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Dr Simon Brooks yn un o gant a wrthododd dalu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[1]

Mae'n byw ym Mhorthmadog ac yn gynghorydd ar Gyngor Tref Porthmadog.[2]

Roedd Simon Brooks yn un o feirniaid cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru yn 2011.

Llyfryddiaeth

Academaidd

Gohebyddiaeth

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.