Cynllun i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg gan ddisyglion holl sectorau ysgolion Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Siarter Iaith, yn gynllun gan Lywodraeth Cymru er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn cynradd ac uwchradd Cymru. Sefydlwyd y Siarter Iaith gan Gyngor Gwynedd yn wreiddiol ond yn 2016 fe'i hymestynwyd yn genedlaethol.[1] Ceir dogfennau cefnogi'r Siarter ar gyfer ysgolion ac athrawon eu canfod ar wefan porth addysg gorfodol Llywodraeth Cymru, Hwb.[2]
Enghraifft o'r canlynol | polisi cyhoeddus, polisi iaith |
---|---|
Dechreuwyd | 2016 |
Pwrpas y Siarter yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Siarter Iaith i bawb a gall pob aelod o gymuned yr ysgol gymryd rhan, cyngor yr ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol perchnogaeth lawn ar eu Siarter Iaith. Yn ôl broliant i fideo ar sianel Youtube uned Gymraeg Llywodraeth Cymru gall gweithredu'r Siarter hefyd olygu normaleiddio’r iaith, nid yn unig yn yr ysgol, ond hefyd wrth dreulio amser gyda ffrindiau neu wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned gyflwyno’r iaith i weithgareddau y tu allan i‘r ysgol, hyrwyddo cynnwys Cymraeg fel llyfrau, ffilmiau a cherddoriaeth, ac annog defnyddio Cymraeg ar-lein neu drwy dechnoleg.[3]
Mae'r Siarter Iaith ar gyfer pawb yng nghymuned yr ysgol.
Mae’r Siarter Iaith ar waith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru. Yn ogystal mae rhaglenni eraill ar gyfer disgyblion a dysgwyr:
Bu i'r Siarter gyflwyno dau gymeriad newydd yn benodol ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru. Roedd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.
Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach.
Mae gan gymeriadau y Siarter, Seren a Sbarc, gân arbennig, gyda’r geiriau i ganu gyda’r gân yn y fideo. Mae’r gân hefyd ar gael ar Spotify. Diolch i Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, am ysgrifennu’r geiriau ac i Osian Williams am gyfansoddi’r gerddoriaeth.[5]
Teg dweud bod hyrwyddo cerddoriaeth y Sîn Roc Gymraeg ar ffurf disgos neu gyngherddau gan fandiau byw,[6] a thrwy hyrwyddo gwrando ar radio neu ffrydio Cymraeg yn rhan fawr allbwn y Siarter Iaith gan ysgolion.
Ceir awr o gerddoriaeth gyfredol Gymraeg ar BBC Sounds er mwyn cefnogi ymdrechion Siarter Iaith ysgolion. Cyhoeddwyd ym mis Ioanwr 2024 gydag uchafbwyntiau cherddorol 2023.[7]
Cynhaliwyd werthusiad o'r Siarter Iaith gan Lywodraeth Cymru yn 2020. Ynddo nodwyd bod swyddogion consortia addysg yn croesawu’r egwyddor o ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer y Siarter Iaith. Fodd bynnag, canfu’r gwerthusiad hefyd fod angen mwy o eglurder ynghylch sut y bwriedir i’r fframwaith weithio yn ymarferol.
Cafwyd enghreifftiau o ysgolion yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau anffurfiol. Cafwyd tystiolaeth hefyd o ddyblygu wrth ddatblygu adnoddau ac wrth ddatblygu cysylltiadau gyda phartneriaid allanol.[8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.