Semen

From Wikipedia, the free encyclopedia

Semen

Hylif organig yw semen, sy'n cynnwys sberm fel arfer. Fe'i secretir gan organau atgenhedlu anifeiliaid gwrywaidd neu ddeurywiol, er mwyn ffrwythloni wygelloedd benywaidd. Alldafliad yw'r enw ar yr hyn sy'n digwydd wrth i semen adael y corff.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Semen
Thumb
Enghraifft o:hylifau corfforol, dosbarth o endidau anatomegol 
Mathsecretiad, endid anatomegol arbennig 
GwneuthurwrProstad 
Cynnyrchanifail, mamal 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Cyfansoddiad semen dynol

Mae semen yn cynnwys sberm (sy'n dod o'r ceilliau) a phlasma semenaidd (a gynhyrchir yn y fesiglau semenaidd, y chwarren brostad, a chwarrennau Cowper.


Dyma cyfansoddiad a tharddiad semen:

Chwarren% brasgywirDisgrifiad
Ceilliau2-5%[1]Rhyddheir oddeutu 200- i 500-miliwn cell sberm ymhob alldafliad.
Fesigl Semenaidd65-75%asidau amino, sitrad, ensymau, flafinau, ffrwctos (prif ffynhonnell ynni'r celloedd sberm), ffosfforylcholin, prostaglandinau (sy'n atal adwaith imiwnol yn y corff benywaidd), proteinau, fitamin C
Chwarren brostad25-30%ffosffatas asidig, sitrad, ffibrinolysin, antigen prostad-benodol, ensym proteolytig, zinc
Chwarren Cowper< 1%galactos, mwcws (hyrwyddo mudiant y celloedd sberm yn y wain a cheg y groth. Cyfrannu at wead jelïaidd semen.), cyn-alldafliad, asid sialig

Disgrifiodd adroddiad Mudiad Iechyd y Byd semen dynol normal, fel yr hyn sydd â chyfaint o 2 ml neu fwy, pH o 7.2 i 8.0, crynodiad sberm o 20x106 cell sberm/ml neu'n uwch, 40x106 cell sberm neu fwy ymhob alldafliad, symudiad am ymlaen gyda 50% or celloedd sberm, a symudiad chwim gan 25% ohonynt.[2] Achos bod semen yn alcalïaidd (gwrthasid), gall rhyw geneuol helpu yn erbyn diffyg traul.

Ffynonellau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.