Sefydlwyr yr Unol Daleithiau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arweinwyr gwleidyddol a gwladweinwyr oedd â rhan yn Chwyldro America oedd Sefydlwyr yr Unol Daleithiau (hefyd y Tadau Sefydlu neu'r Tad-Sefydlwyr; Saesneg: Founding Fathers of the United States) trwy arwyddo Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, cymryd rhan yn Rhyfel Annibyniaeth America, sefydlu Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau, neu gyfraniadau allweddol eraill. O fewn grŵp mawr y "Sefydlwyr" ceir dwy brif garfan: "Arwyddwyr y Datganiad Annibyniaeth" (a'u harwyddodd ym 1776) a "Llunwyr y Cyfansoddiad" (cynrychiolwyr i'r Gynhadledd Gyfansoddiadol a gymerodd rhan wrth lunio ac ysgrifennu'r Cyfansoddiad). Diffinnir "y Sefydlwyr" gan y mwyafrif o hanesyddion fel grŵp eangach sydd yn cynnwys nid yn unig yr Arwyddwyr a'r Llunwyr ond hefyd pob un wnaeth cymryd rhan mewn ennill annibyniaeth Americanaidd a chreu'r Unol Daleithiau, gan gynnwys gwleidyddion, cyfreithegwyr, gwladweinwyr, milwyr, diplomyddion, a dinesyddion cyffredin.[2] Yn ei lyfr Seven Who Shaped Our Destiny: The Founding Fathers as Revolutionaries (1973), nododd yr hanesydd o Americanwr Richard B. Morris saith dyn yn y prif Sefydlwyr:
- Benjamin Franklin
- George Washington
- John Adams
- Thomas Jefferson
- John Jay
- James Madison
- Alexander Hamilton[3]
Bathodd y cyhoeddwr papurau newydd Warren G. Harding, Seneddwr Gweriniaethol o Ohio ar y pryd, y term Saesneg "Founding Fathers" yn ei araith gyweirnod i'r Gynhadledd Genedlaethol Weriniaethol ym 1916. Defnyddiodd yr ymadrodd nifer o weithiau ar ôl hynny, yn amlycaf yn ei anerchiad agoriadol fel Arlywydd yr Unol Daleithiau ym 1921.[4]
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.