Sailor Moon

From Wikipedia, the free encyclopedia

Sailor Moon

Franchise wedi'i greu gan yr arlunydd Naoko Takeuchi ydy Sailor Moon, sy'n cael ei adnabod yn Japan fel Bishōjo Senshi Sailor Moon (美少女戦士セーラームーン Bishōjo Senshi Sērā Mūn, cyfieithiad swyddogol: "Pretty Soldier Sailormoon"[1] neu "Pretty Guardian Sailor Moon"[2]). Math o manga o'r enw Shōjo manga ydy Sailormoon.

Thumb
Y clawr

Mae Fred Patten a Paul Gravettyn rhoi clod iddi hi am boblogeiddio'r syniad o griw o ferched hud a lledrith ac am atgyfnerthu'r genre.

Mae'r stori'n ymwneud â chriw o amddiffynwyr sy'n ceisio amddiffyn gwlad a oedd unwaith yn rhychwantu'r gofod, ac am y cymeriadau drwg mae nhw'n dod ar eu traws. Y prif gymeriadau ydy Sailor Senshi (sy'n golygu "Sailor Soldiers"; neu'n aml "Sailor Scouts" neu "Guardians" mewn addasiadau Ewropeaidd. Glasoed ydy'r merched hyn a gallant newid yn arwresau gydag enwau'r planedau a'r lleuad iddynt. Daw'r gair "Sailor" o'u gwisg ysgol Siapan (sērā fuku) sydd i'w weld bron ym mhob ysgol yn Siapan. Mae llawer o symbolau mytholegol drwy'r storiau.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.