Rhombws
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn y Plân geometraidd Ewclidaidd, siâp syml yw'r rhombws (ll. rhombi), sy'n betryal. Mae ganddo bedair ochr o'r un hyd, ac oherwydd hyn, gelwir ef weithiau'n bedrochr hafalochrog. Yn achlysurol, gelwir ef yn 'ddiamwnt', gan ei fod mor debyg i'r symbol o ddiamwnt octahedrol ar gardiau chwarae.


Mae pob rhombws yn baralelogram ac yn farcut. Pe bai gan rombws ongl sgwâr, yna byddai hefyd yn sgwâr.[1][2]
Geirdarddiad
Daw'r gair 'rhombws' o'r Groeg ῥόμβος (rhombos), sy'n golygu rhybeth sy'n troelli,[3] sy'n tarddu o'r gair ferf ῥέμβω (rhembō), sef "troi a throi".[4] Defnyddiai Euclid ac Archimedes y gair.[5] Mae'r arwyneb a adnabyddwn ni heddiw fel 'rhombws' yn groestoriad o rombws solid (tri dimensiwn) a ddisgrifiwyd gan Euclid ac Archimedes.
Arwynebedd
Fel gyda phob paralelogram, mae arwynebedd K y rhombws yw lluoswm ei sylfaen a'i uchder (h). Y sylfaen yw unrhyw ochr (a):
Gellir hefyd mynegi'r arwynebedd fel y sylfaen wedi'i luosi gyda sin unrhyw ongl:
neu yn nhermau ei uchder ac ongl fertig:
neu hanner lluoswm y croesliniau p, q:
neu fel rhan-berimedr wedi'i luosi gyda radiws mewngylch y rhombws:
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.