From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwas sifil o Loegr oedd Ralph Robert Wheeler Lingen, Barwn 1af Lingen KCB (19 Rhagfyr 1819 – 22 Gorffennaf 1905).[1] Mae'n adnabyddus fel un o'r tri chomisiynydd a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad Inquiry into the State of Popular Education in Wales (1847) – y Llyfrau Gleision drwg-enwog.
Ralph Lingen, Barwn 1af Lingen | |
---|---|
Ganwyd | 19 Rhagfyr 1819, 19 Chwefror 1819 Birmingham |
Bu farw | 22 Gorffennaf 1905 Kensington |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Permanent Secretary to the Treasury, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, member of London County Council |
Tad | Thomas Lingen |
Mam | Ann Palmer Wheeler |
Priod | Emma Hutton |
Gwobr/au | Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon |
Fe'i ganwyd yn Birmingham, yn fab i'r dyn busnes Thomas Lingen (1771–1848). Astudiodd yn Ysgol Ramadeg Bridgnorth, Swydd Amwythig (1831–7), ac yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen (1837–40). Enillodd gymrodoriaeth yn Ngholeg Balliol, Rhydychen ym 1841. Cafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn, Llundain, ym 1847, ond ni ymarferodd fel bargyfreithiwr, ond daeth yn was sifil yn y Swyddfa Addysg y Llywodraeth.
Yn 1846 fe'i penodwyd, gyda Jelinger Cookson Symons a Henry Robert Vaughan Johnson – dau fargyfreithiwr arall o Loegr – yn gomisiynydd ymchwiliad seneddol i gyflwr addysg yng Nghymru. Ar adeg pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg roedd y tri chomisiynydd yn siaradwyr Saesneg uniaith. Roeddent yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth unochrog gan dirfeddianwyr a chlerigwyr Anglicanaidd a ddifenwasant iaith, addysg a moesoldeb y Cymry Cymraeg. Arweiniodd adroddiad y comisiynwyr – a gyhoeddwyd mewn cloriau glas ym 1847– at ddicter yng Nghymru, a daeth y mater yn adnabyddus fel Brad y Llyfrau Gleision.
Ym 1849 fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Parhaol i'r Adran Addysg, ac wedyn, ym 1969 yn Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys, swydd y parhaodd i'w gwneud nes iddo ymddiswyddo yn 1885, pan gafodd ei urddo'n arglwydd fel Barwn Lingen.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.