From Wikipedia, the free encyclopedia
Ideoleg gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd Fladimir Pwtin yw Pwtiniaeth (Rwsieg: путинизм). Yn yr 21g, mae Pwtiniaeth wedi dod yn gyffredin ledled Ffederasiwn Rwsia a gellid gweld ei effaith a dylanwad y tu hwnt i ffiniau'r wladwriaeth honno. Ym mis Mawrth 2022, roedd y nifer uchaf erioed o 83% o Rwsiaid yn cefnogi Fladimir Pwtin.[1][2][3]
Enghraifft o'r canlynol | slogan gwleidyddol, math o lywodraeth, math o wladwriaeth |
---|---|
Math | guided democracy, system wleidyddol, ideoleg wleidyddol, illiberal democracy |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn gyffredinol, mae Pwtiniaeth yn dynodi'r system wleidyddol o dan y Prif Weinidog a'r Arlywydd Vladimir Pwtin lle mae llawer o bwerau gwleidyddol ac ariannol yn cael eu rheoli gan siloviki. Mae'r siloviki hyn yn wleidyddion Rwsiaidd o'r hen wasanaethau diogelwch, cudd-wybodaeth neu filwrol, yn aml y KGB a swyddogion milwrol. Yn aml mae'r siloviki hyn yn ffrindiau â Pwtin neu wedi gweithio gydag ef yn ystod amser y KGB neu Weinyddiaeth Materion Mewnol Rwsia (MVD).[4]
Er y gellir disgrifio arddull wleidyddol Pwtin ar y naill law fel ymgais i ryddfrydoli'r economi, mae Pwtin yn aml yn cael ei gyhuddo o dueddiadau awdurdodaidd [5] sy'n gorfodi gwrthwynebwyr gwleidyddol i ymddiswyddo, megis y dedfrydau carchar i Mikhail Khodorkovsky ac Alexei Navalny.
Ceir nifer o ddywediadau neu sylwadau bachog nodweddiadol o Pwtin a Phwtiniaeth. Llefarwyd llawer o'r datganiadau hyn yn wreiddiol gan Pwtin yn ei sesiynau cwestiwn-ac-ateb blynyddol. [6] Yn ystod y sesiynau Holi ac Ateb bondigrybwyll hyn, bydd Pwtin yn ateb cwestiynau difrifol a llai difrifol gan drigolion Rwsia o bob rhan o'r wlad. Rhai dyfyniadau enwog eraill gan Pwtin yw:[7]:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.