gardd fotaneg yng Nghernyw From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfadeilad amgylcheddol ar thema natur a datblygu cynaliadwy yw Prosiect Eden (Saesneg: The Eden Project; Cernyweg: Edenva). Fe'i lleolir y tu mewn cyn-weithfeydd caolin, ychydig i'r gorllewin o bentrefan Bodelva ger tref St Blazey.
Cafodd y dyn busnes Tim Smit syniad y prosiect, a gynlluniwyd gan y pensaer Nicholas Grimshaw. Parhaodd y gwaith adeiladu ddwy flynedd a hanner. Agorwyd y ganolfan, sy'n denu llawer o ymwelwyr i'r ardal,[1] ym mis Mai 2000.
Mae gan y safle ddau strwythur enfawr sy'n cynnwys cromenni geodesig cyfagos sy'n gartref i filoedd o rywogaethau planhigion. Mae pob strwythur yn efelychu bïom naturiol: mae'r mwyaf o'r ddwy fïom yn efelychu amgylchedd coedwig law, a'r ail, amgylchedd hinsawdd y Canoldir. Y tu allan mae gardd fotaneg fawr ac amrywiol. Mae'r biomau a'r gerddi gyda'i gilydd yn llenwi tua 13 hectr (32 erw).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.