From Wikipedia, the free encyclopedia
Comedi ysgafn mewn dwy act gan Saunders Lewis yw Problemau Prifysgol, a ysgrifennwyd ym 1962 ac a gyhoeddwyd gyntaf gan Wasg y Dryw ym 1968.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Saunders Lewis |
Cyhoeddwr | Gwasg y Dryw |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1968 |
ISBN | 978-0715400876 |
Tudalennau | 66 |
Genre | Drama |
Cyflwynwyd cyhoeddiad 1968 gyda'r disgrifiad bachog hwn: "Direidi - ym mhob ystyr i'r gair - a geir yn y gomedi hon. Wrth gwrs 'does neb yng Nghymru yn ystyried comedi yn weddus ac felly fe sgrifennodd yr awdur ragymadrodd difrifol sy'n trafod problem losg ac enbyd Cymraeg Byw. Bydd Adrannau Addysg y Brifysgol yn cydnabod mai dyna un o Broblemau Prifysgol, ac felly fe gyfiawnheir teitl y llyfr. Gofynnir i'r adolygwyr gofio mai atodiad i'r Rhagymadrodd yw'r ddrama".[2]
Wedi traethu'n ddifrifol am Gymraeg Byw, aiff y dramodydd yn ei flaen i sôn am y ddrama: "Digrifwch ysgafn sydd ynddi, heb ond ychydig o ddychan. Nis rhoddwyd nac ar lwyfan na ar sgrin deledu. Efallai mai hynny sydd orau. Mae'n haws lawer i actorion Cymraeg gyflwyno trasiedi neu ddrama ddifrifol. [...] Nid oes neb ohonom ni yng Nghymru erioed wedi gweld actio comedi hyd yn oed yn weddol dda. 'Does gennym ni na'r safonau na'r wybodaeth".[2]
Dyma'r ail ddrama sy'n trafod materion neu fywyd cyfoes yng Nghymru, gydag Excelsior (1962) yn rhagflaenu, a Cymru Fydd (1967) yn ei dilyn. "Ni chafodd y gyntaf ei dangos ond unwaith ar y sgrin deledu", yn ôl Saunders Lewis yn ei Ragair i gyhoeddiad Cymru Fydd ym 1967: "[...] Y mae cyfraith athrod Lloegr yn lladd dychan [...] Am yr ail ddrama ni fynnai neb mohoni; nis llwyfannwyd, nis teledwyd, nis cyhoeddwyd, druan fach. A hynny, yn ôl llawer beirniad, a ddylai fod yn dynged Cymru Fydd. Ond i mi y maent yn driawd."[3]
Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn 1968.[4]
Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Barri 1968.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.