From Wikipedia, the free encyclopedia
Priordy Benedictaidd yn Allteuryn ger Casnewydd oedd Priordy Allteuryn.
Cipiwyd yr ardal oddi wrth Owain Wan gan Robert de Chandos, a sefydlodd y priordy yma ychydig cyn 1113. Roedd de Chandos yn frodor o ardal Bec yn Normandi, a rhoddodd y priordy i Abaty Bec. Rhoddwyd tiroedd sylweddol yng Ngwlad yr Haf i'r priordy.
Yn 1291, amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £171, y cyfoethocaf o briordai Benedictaidd Cymru, yn berchen ar 1300 erw o dir, a chyda tua 25 mynach yn y cyfnod yma. Erbyn 1297, roedd y nifer wedi gostwng i bymtheg.
Pan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc, dioddefodd y priordy oherwydd ei fod yn eiddo i abaty Ffrengig. Yn 1441 rhoddwyd y priordy i Abaty Tewkesbury yn Lloegr, a gyrrwyd yr wyth mynach yno ymaith. Yn 1467 rhoddwyd ef i Eton, ond nid oedd mynachod yno erbyn hynny. Nid oes gweddillion i'w gweld ar y safle bellach.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.