Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Port of Spain yw prifddinas Trinidad a Thobago. Saif ar Gwlff Paria ar arfordir gorllewinol ynys Trinidad. Roedd y boblogaeth yn 2000 yn 49.000, gyda 300,000 yn yr ardal ddinesig.
Math | dinas, endid tiriogaethol gwleidyddol, regional corporation or municipality of Trinidad and Tobago |
---|---|
Enwyd ar ôl | Sbaen, porthladd |
Poblogaeth | 37,074 |
Pennaeth llywodraeth | Prif Weinidog Trinidad a Thobago |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Trinidad a Thobago |
Arwynebedd | 12 km² |
Uwch y môr | 3 ±1 metr |
Gerllaw | Gwlff Paria |
Cyfesurynnau | 10.67°N 61.52°W |
Cod post | 500234 |
TT-POS | |
Pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Trinidad a Thobago |
Sefydlwyd y ddinas gan y Sbaenwyr ar safle tref frodorol Cumucarapo. Symudodd y llywodraethwr Sbaenig olaf, Don Jose Maria Chacon, y brifddinas o St. Joseph i Port of Spain ar ddiwedd y 18g, a pharhaodd yn brifddinas pan ddaeth yr ynys yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn 1797.
O 1958 hyd 1962 roedd Port of Spain yn brifddinas Ffederasiwn India'r Gorllewin. Yn y 1960au, cyrhaeddodd y boblogaeth 100,000, ond ers hynny mae wedi gostwng wrth i bobl symud allan i'r maesdrefi.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.