bargyfreithiwr dros yr amgylchedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Bargyfreithiwr o'r Alban, awdur a lobïwr dros yr amgylcheddol oedd Pauline Helène Higgins FRSGS (4 Gorffennaf 1968[1] - 21 Ebrill 2019), a alwyd gan ei ffrindiau'n "Polly", ac a ddisgrifiwyd yn ei hysgrif goffa yn The Guardian fel, "un o'r ffigurau mwyaf ysbrydoledig y mudiad gwyrdd".[2] Gadawodd ei gyrfa fel cyfreithiwr i ganolbwyntio ar eiriolaeth amgylcheddol, a lobïodd Gomisiwn y Gyfraith y Cenhedloedd Unedig yn aflwyddiannus i gydnabod eco-laddiad (Saesneg: ecocide) fel trosedd ryngwladol. Ysgrifennodd Higgins dri llyfr, gan gynnwys Eradicating Ecocide, a sefydlodd grŵp Gwarchodwyr y Ddaear i godi arian i gefnogi'r achos.
Polly Higgins | |
---|---|
Ganwyd | Pauline Helène Higgins 4 Gorffennaf 1968 Glasgow |
Bu farw | 21 Ebrill 2019 o canser Stroud |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | amgylcheddwr, bargyfreithiwr, llenor |
Gwefan | https://pollyhiggins.com |
Magwyd Higgins yn Blanefield ychydig i'r de o Ffawt Ffin yr Ucheldiroedd wrth droed Bryniau Campsie yn yr Alban. Roedd ei thad yn feteorolegydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'i mam yn arlunydd. Dylanwadodd ymrwymiad y teulu i faterion hinsawdd a gwyrdd ar ei blynyddoedd cynnar.[2]Ar ôl mynychu ysgol Jeswitiaid Glasgow St Aloysius' College (1986) cwblhaodd ei gradd gyntaf ym Mhrifysgol Aberdeen (1990) ac enillodd hefyd Ddiploma Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Utrecht a gradd Ôl-raddedig Prifysgol Glasgow (1991).[3][4] Yn ystod ei blynyddoedd prifysgol, bu’n cydweithio â Friedensreich Hundertwasser, artist ac ymgyrchydd amgylcheddol o Awstria. Yn ddiweddarach aethant i Fienna, lle dylanwadwyd arni gan y mudiad ecoleg Ewropeaidd. Yn 2013, enillodd Ddoethur Honoris Causa o Ysgol Fusnes Lausanne, y Swistir.
Hyfforddodd yn y gyfraith ym Mhrifysgol City, Llundain ac yna yn Ysgol y Gyfraith Inns of Court yn Llundain; yn 1998, cafodd ei galw i'r Bar (yn Lloegr).[1] Bu’n gweithio fel cyfreithiwr yn Llundain, gan arbenigo mewn cyfraith gorfforaethol a chyflogaeth.[5]
Ar ddiwedd achos tair blynedd lle bu'n cynrychioli person a oedd wedi’i anafu yn y gwaith, disgrifiodd Higgins ei phrofiad yn edrych allan drwy’r ffenest yn y Llys Apêl a meddwl “Mae’r ddaear yn cael ei hanafu a’i niweidio hefyd a does dim byd yn cael ei wneud yn ei gylch” a dywedodd wrthi hi ei hun, "mae angen cyfreithiwr da ar y Ddaear". Yn dilyn hynny, rhoddodd y gorau i ymarfer fel bargyfreithiwr i ganolbwyntio ar eiriol dros gyfraith ryngwladol a fyddai’n dal gweithredwyr busnes a llywodraethau i gyfrif trwy eu gwneud yn droseddol atebol am y niwed amgylcheddol y maent wedi ei achosi.[2]
Cynigiwyd eco-laddiad fel un o'r troseddau rhyngwladol yn erbyn heddwch ym 1996, ond ni chafodd ei gynnwys yn Statud olaf Rhufain y Llys Troseddol Rhyngwladol. Dechreuodd Higgins ymgyrchu dros ei gynnwys tua 2009.[6][5] Esboniodd yn 2010 fod eco-laddiad “yn arwain at ddisbyddu adnoddau, a lle mae disbyddiad adnoddau yn gwaethygu, mae rhyfel ar ei hôl hi. Lle mae dinistr o’r fath yn deillio o weithredoedd dynolryw, gellir ystyried eco-laddiad yn drosedd yn erbyn heddwch.”[5] Lobïodd Gomisiwn y Gyfraith (y Cenhedloedd Unedig) i gydnabod eco-laddiad fel trosedd ryngwladol, ond ar adeg ei marwolaeth, ofer fu'i hymdrechion, oddigerth iddi hau hadau.[2]
Fel rhan o’i hymgyrch, ysgrifennodd Higgins Eradicating Ecocide a sefydlodd grŵp codi arian Gwarchodwyr y Ddaear.[6] Hi oedd un o sylfaenwyr Cynghrair Cyfraith y Ddaear.[7] Yn 2009, disgrifiwyd Higgins gan gylchgrawn The Ecologist fel "un o ddeg meddyliwr gyda gweledigaeth gorau'r byd".[8] Roedd yn safle 35 ar restr 100 o Fenywod Ysbrydoledig Gorau’r Byd 2016 yn y cylchgrawn Salt.[9]
Wedi iddi adael yr Alban, bu Higgins yn byw'n Llundain[5] ac ymsefydlodd yn ddiweddarach ger Stroud, Swydd Gaerloyw.[5][10] Roedd yn briod ag Ian Lawrie, barnwr a QC.[10][11]
Ym Mawrth 2019, dywedodd George Monbiot fod Higgins wedi cael diagnosis o ganser terfynol.[6] Bu farw ar 21 Ebrill 2019, yn 50 oed[2] Claddwyd hi yn Slad, sir Gaerloyw.
Llyfrau
Papurau
Cymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yr Alban: - Medal Shackleton, 2018 Hefyd:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.