From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd a milwr o Fecsico oedd Plutarco Elías Calles (25 Medi 1877 – 19 Hydref 1945) a fu'n gadfridog yn Chwyldro Mecsico ac yn Arlywydd Mecsico o 1924 i 1928.
Plutarco Elías Calles | |
---|---|
Ganwyd | 25 Medi 1877 Guaymas |
Bu farw | 19 Hydref 1945 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol, person milwrol, arlywydd, Secretary of Government |
Swydd | Arlywydd Mecsico, gweinidog |
Plaid Wleidyddol | Mexican Laborist Party, Plaid Chwyldroadol Genedlaethol |
Priod | Natalia Chacón |
Plant | Hortensia Elías Calles de Torreblanca |
Ganwyd yn Guaymas yn nhalaith Sonora yng ngogledd Mecsico. Gweithiodd yn athro ysgol gynradd cyn iddo ymuno â gwrthryfel Francisco Madero yn erbyn yr unben Porfirio Díaz yn 1910. Fe'i dyrchafwyd yn gadfridog ac arweiniodd lluoedd Madero mewn brwydrau yn erbyn Victoriano Huerta a Pancho Villa.[1]
Daeth yn llywodraethwr Sonora yn 1917. Fe'i penodwyd yn weinidog masnach, llafur, a diwydiant yng nghabinet yr Arlywydd Venustiano Carranza. Ymddiswyddodd o'r llywodraeth i ymgyrchu dros yr ymgeisydd Álvaro Obregón yn etholiad arlywyddol 1920. Gwasanaethodd Calles yn weinidog tramor yn llywodraeth dros dro Adolfo de la Huerta yn 1920 ac yn weinidog mewnwladol dan yr Arlywydd Obregón o 1920 i 1924[1]
Etholwyd Calles yn arlywydd yn 1924 a chychwynnodd diwygio addysg, amaeth, a llafur ym Mecsico. Cyfyngodd ar ddylanwad y fyddin ym mywyd gwleidyddol Mecsico mewn ymgais i atal gwrthryfeloedd milwrol a coups d'état. Cyflwynodd hefyd sawl deddf wrthglerigol i gwtogi ar ddylanwad yr Eglwys Gatholig yn y wlad, er enghraifft drwy wahardd ysgolion eglwysig.[1]
Wedi iddo ildio'r arlywyddiaeth, sefydlodd y Partido Nacional Revolucionario (PNR) yn 1929. Calles oedd yn meddu ar reolaeth y blaid am chwe mlynedd nes i ymblaid adain-chwith ddominyddu'r blaid yn 1934 a chefnogi ymgyrch arlywyddol Lázaro Cárdenas. Bu Calles yn byw'n alltud yng Nghaliffornia nes 1941, pryd gafodd ganiatâd i ddychwelyd i Fecsico. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 68 oed.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.