rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Aderyn sy'n aelod o deulu'r rhydyddion yw Pibydd y Dorlan (Actitis hypoleucos). Mae'n aderyn mudol, yn nythu ar draws rhan helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica, de Asia ac Awstralia.
Pibydd y Dorlan | |
---|---|
Pibydd y Dorlan ger Llyn Aled Isaf, Mynydd Hiraethog | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Actitis |
Rhywogaeth: | A. hypoleucos |
Enw deuenwol | |
Actitis hypoleucos (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Tringa hypoleucos |
Mae'r aderyn yn 18–20 cm o hyd, a 32–35 cm ar draws yr adenydd. Mae ganddo gefn llwyd a bol gwyn. Eu prif fwyd yw unrhyw greaduriad bychain sy'n byw ar y mwd o gwmpas y glannau neu yn y dŵr. Mae'n nythu ar lawr. gerllaw afonydd a llynnoedd.
Yng Nghymru, mae Pibydd y Dorlan yn nythu o gwmpas llynnoedd ac afonydd ar yr ucheldiroedd yn bennaf, a gall fod yn weddol gyffredin. Yn y gwanwyn ac wedi diwedd y tymor nythu, fe'i gwelir ger glannau aberoedd. Ceir ambell un yn treulio'r gaeaf yma.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.