bardd, golygydd a phrifathro prifysgol From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur Cymraeg ac athro ym Mhrifysgol Bangor ydy Peredur Lynch (ganwyd 1963). Mae'n frodor o Garrog, Sir Feirionnydd.[1] Yn 1979 cipiodd gadair Eisteddfod yr Urdd ym Maesteg gydag awdl – y bardd ieuengaf i wneud hynny erioed, ag yntau'n ddim ond 16 mlwydd oed. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor cyn dod yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth rhwng 1985 a 1990. Ar ôl hynny, bu'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.[2] Ym 1995, dychwelodd i Brifysgol Bangor a chafodd ei ddyrchafu'n Athro'r Adran yn 2005. Ef hefyd oedd Pennaeth Adran y Gymraeg rhwng 2003 a 2006.
Peredur Lynch | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ionawr 1963 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, athro cadeiriol |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, arweinydd milwrol |
Mae'n arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.