llawysgrif Gymraeg gynnar From Wikipedia, the free encyclopedia
Llawysgrif Gymraeg gynnar yw Peniarth 20, sy'n perthyn i'r casgliad a elwir yn Llawysgrifau Peniarth. Cynigiodd J. Gwenogvryn Evans ddyddiad o tua'r 15g iddi ond bellach mae Daniel Huws, y prif arbenigwr ar lawysgrifau Cymreig cynnar, wedi dadlau o blaid dyddiad tuag 1330 i brif haen y llawysgrif. Mae'n llawysgrif femrwn.
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif, llenyddiaeth Cymru, gwaith llenyddol |
---|---|
Math | Brut y Tywysogion |
Deunydd | memrwn, inc |
Rhan o | Llawysgrifau Peniarth |
Iaith | Cymraeg, Saesneg |
Cysylltir gyda | Llyfr Du Basing |
Dechrau/Sefydlu | c. 1330 |
Genre | prose poetry, ffeithiol |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Prif bwnc | hanes |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Peniarth 20 yn llawysgrif bwysig sy'n cynnwys y copi cynharaf a feddwn o destun Brut y Tywysogion a chopi cynnar o un o'r testunau a elwir yn Ramadegau'r Penceirddiaid, sy'n fath o lawlyfr i feirdd proffesiynol. Credir mai golygiad gan Dafydd Ddu o Hiraddug o destun gan Einion Offeiriad ydyw.
Mae'n cynnwys yn ogystal testunau o waith rhai o'r Gogynfeirdd, yn cynnwys Iorwerth Fychan.
Dengys astudiaeth o nodweddion llawysgrifol a thestunol fod Peniarth 20 yn perthyn yn agos i lawysgrif gynnar arall, sef Llyfr Du Basing. Credir iddi gael ei llunio naill ai yn Abaty Dinas Basing neu, yn fwy tebygol, yn scriptorium Abaty Aberconwy. Mae'r hynafiaethydd Robert Vaughan (c.1592-1667) o'r Hengwrt (ger Dolgellau), casglwr gwreiddiol Llawysgrifau Peniarth, yn cyfeirio at un ohonynt fel 'Llyfr Conwy', a chredir gan rai mai Peniarth 20 yw'r llawysgrif honno. Yn sicr ddigon gellir dweud ei bod yn llawysgrif a ysgrifennwyd yng ngogledd Cymru.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.