bryngaer yn Dyffryn Ardudwy From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Pen y Dinas[1] yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Dyffryn Ardudwy yn ardal Ardudwy, Gwynedd, Cymru; cyfeirnod OS: SH606208. Mae'n un o sawl bryngaer o'r un enw yng Nghymru; prif ystyr y gair Cymraeg Canol dinas yw 'caer'.
Math | bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dyffryn Ardudwy |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7673°N 4.0669°W |
Cod OS | SH60632086 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME076 |
Adeiladwyd y gaer hon ar drwyn o dir sy'n edrych i lawr ar Afon Egryn o'r gogledd. Ceir ffos o gwmpas y trwyn gyda mur cerrig gyda thrwch o 4.5 meter yn ei sylfaen. Cloddwyd hyn yn 1919. Mae'r mur a'r ffos yn arbennig o fawr o gwmpas y fynedfa i'r gaer; tybir bu pont o bren i groesi'r ffos.[1]
Gelllir gweld olion ffordd gynhanesyddol yn arwain i'r fynedfa o'r gogledd gyda chlawdd i'w hamddiffyn o'r ochr orllewinol.[1]
Ceir dau gwt canoloesol ger y ffordd gynhanesyddol sy'n awgrymu y gallasai'r gaer hon o Oes yr Haearn wedi parhau fel amddiffynfa hyd yr Oesoedd Canol Cynnar. Ceir trigfan cynhanesyddol wedi'i amddiffyn yn gryf islaw'r gaer.[1]
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: ME076.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.