From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd cantref Pebidiog yn un o saith gantref teyrnas Dyfed, yn ne-orllewin Cymru. Roedd yn cynnwys safle Tyddewi, canolfan eglwysig bwysicaf y wlad. Heddiw mae tiriogaeth Pebidiog yn gorwedd yng ngogledd-orllewin Sir Benfro; dyma'r darn o dir mwyaf gorllewinol yng Nghymru.
Mae gan gantref Pebidiog arfordir hir ar Fae Ceredigion a Bae Sain Ffraid a nodweddir gan glogwynni a baeau bychain niferus. I'r dwyrain roedd afon Gwaun yn ffurfio ffin naturiol. Ffiniai Pebidiog â thri chantref arall yn Nyfed, sef Cemais i'r dwyrain a Daugleddau a Rhos i'r de. Cantref a nodweddir gan dir creigiog a rhosdiroedd ydyw, gyda lleiniau bychain o dir amaethyddol.
Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd, sef :
Canolfan bwysicaf y cantref oedd Tyddewi (Mynyw neu Menevia), safle Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chanolfan cwlt Dewi Sant. Tyrrai pererinion o bob cwrdd o'r wlad a'r tu hwnt i Dyddewi ar hyd llwybrau pererin. Roedd dylanwad gwleidyddol Tyddewi yn fawr yn ogystal, ac ymddengys mai esgobion Tyddewi oedd arglwyddi'r cantref yn y cyfnod cynnar ; enwir un o'r ddau gwmwd ar ôl Tyddewi (Cwmwd Mynyw).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.