From Wikipedia, the free encyclopedia
Prif Weinidog Gwlad Thai ers 18 Awst 2024 yw Paetongtarn Shinawatra RThBh (Tai; RTGS: Phaethongthan Chinnawat ; ganwyd 21 Awst 1986). Mae hi'n wleidydd a menyw fusnes o Wlad Thai sy'n gwasanaethu fel arweinydd Plaid Thai Pheu ers 2023. Mae hi'n ferch ieuengaf Thaksin Shinawatra (prif weinidog y wlad o 2001 i 2006) ac yn nith i Yingluck Shinawatra (prif weinidog o 2011 i 2014). [1][2] Hi yw'r person ieuengaf yn hanes Gwlad Thai i ddod yn brif weinidog a'r ail fenyw i ddal y swydd. [3]
Peatongtarn Shinawatra | |
---|---|
Ganwyd | 21 Awst 1986 Bangkok |
Man preswyl | Chan Song Lar House, Phitsanulok Mansion |
Dinasyddiaeth | Gwlad Thai |
Addysg | Meistr yn y Gwyddorau |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Prif Weinidog Gwlad Tai |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Pheu Thai Party |
Tad | Thaksin Shinawatra |
Mam | Potjaman Na Pombejra |
Priod | Pitaka Suksawat |
Perthnasau | Yingluck Shinawatra, Somchai Wongsawat |
Llinach | Shinawatra family |
Gwobr/au | Order of the Direkgunabhorn |
llofnod | |
Cafodd ei geni ym 1986 [4] yn Bangkok . [5] Aeth i Ysgol Lleiandy St Joseph ac Ysgol Mater Dei . Graddiodd mewn Gwyddor Wleidyddol, Cymdeithaseg, ac Anthropoleg o'r Gyfadran Gwyddor Wleidyddol, Prifysgol Chulalongkorn yn 2008. Parhaodd â'i hastudiaethau yn Lloegr, gan ennill gradd MSc mewn Rheolaeth Gwesty Rhyngwladol o Brifysgol Surrey . [4]
Yn dilyn diswyddo Srettha Thavisin fel prif weinidog y wlad gan Lys Cyfansoddiadol Gwlad Thai ar 14 Awst 2024, enwebwyd Paetongtarn gan Pheu Thai i'w olynu. [6] Cymeradwywyd ei henwebiad gan y Senedd ar 16 Awst, [7] sy'n golygu mai hi yw'r person ieuengaf a'r ail fenyw i ddod yn Brif Weinidog Gwlad Thai. [8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.