Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures a anwyd yn Awstralia ac a fu'n byw yn ddiweddarach yn Lloegr yw Patricia Hewitt (ganwyd 2 Rhagfyr 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd ac aelod o'r Blaid Lafur. Gwasanaethodd yng Nghabined 2007, fel Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd.[1]
Patricia Hewitt | |
---|---|
Ganwyd | 2 Rhagfyr 1948 Canberra |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor, gweinyddwr, press secretary |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol, Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldebau, Ysgrifennydd Economaidd i'r Trysorlys, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | Lenox Hewitt |
Fe'i ganed yn Canberra ar 2 Rhagfyr 1948. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Genedlaethol Awstralia, Coleg Nuffield a Choleg Newnham. [2]
Dechreuodd gyrfa wleidyddol Hewitt yn y 1970au fel gwleidydd asgell-chwith uchel ei chloch a chefnogwr i Tony Benn A.S., gan gael ei chlustnodi gan MI5 fel "cyfaill comiwnyddiaeth", honedig. Ar ôl naw mlynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Hawliau Sifil Cenedlaethol, daeth yn ysgrifennydd y wasg i Neil Kinnock, a gynorthwyodd hi i foderneiddio'r Blaid Lafur. Ym 1997, hi oedd yr AS benywaidd cyntaf i Leicester West, sedd Lafur ddiogel, a gynrychiolodd am dair blynedd ar ddeg.
Yn 1981 priododd Birtles yn Camden; mae ganddynt ferch (ganwyd Medi 1986) a mab (ganwyd Chwefror 1988). Ym 1971, daeth yn Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus i Age Concern, cyn ymuno â'r Cyngor Cenedlaethol dros Ryddid Sifil ("Liberty", bellach), fel swyddog hawliau menywod yn 1973, ac am naw mlynedd o 1974 fel ysgrifennydd cyffredinol.
Yn 1990, dyfarnodd Cyngor Ewrop fod goruchwyliaeth MI5 o Hewitt a Harriet Harman, wedi torri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Mae'n gyn-lywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Tref Kentish.
Yn 2001, ymunodd â chabinet Tony Blair fel Llywydd y Bwrdd Masnach ac fel Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant, cyn dod yn Ysgrifennydd dros Iechyd yn 2005. Yn ystod ei chyfnod, copiodd yr ymarfer da yng Nghymru drwy wneud wneud y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn gyfreithiol-orfodol.
Ym Mawrth 2010, cafodd Hewitt ei gwahardd o'r Blaid Lafur Seneddol oherwydd y cwestiwn o afreoleidd-dra lobïo gwleidyddol, a honnwyd gan raglen Dispatches Channel 4.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.