From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o daleithiau Affganistan yw Panjshir (Dari/Pashto: پنجشیر) a leolir yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Crewyd yn 2004 fel talaith ar wahân i Parwan, ac fe'i enwir ar ôl Dyffryn Panshir. Mae'n ffinio â Baghlan a Takhar i'r gogledd, Badakhshan a Nuristan i'r dwyrain, Laghman a Kapisa i'r de, a Parwan i'r gorllewin. Rhennir y dalaith yn saith dosbarth gweinyddol, ac mae'n cynnwys rhyw 500 o bentrefi. Yn 2021 roedd ganddi boblogaeth oddeutu 173,000.[1] Bazarak, enw ar chwe phentref cyfagos, yw prifddinas daleithiol Panjshir.
Math | Taleithiau Affganistan |
---|---|
Prifddinas | Bazarak |
Poblogaeth | 176,000 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+04:30 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Dari |
Daearyddiaeth | |
Sir | Affganistan |
Gwlad | Affganistan |
Arwynebedd | 3,610 km² |
Uwch y môr | 4,226 metr |
Yn ffinio gyda | Baghlan, Nuristan, Laghman, Parwan |
Cyfesurynnau | 35.4275°N 69.735°E |
AF-PAN | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | llywodraethwr |
Panjshir yw'r dalaith olaf i wrthsefyll ymgyrch ymosodol y Taleban yn 2021; ceir gwrthsafiad i'r Taleban hefyd yn rhannau o Baghlan. Arweinir Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol, sydd wedi sefydlu mân-amddiffynfeydd o amgylch Dyffryn Panjshir, gan Ahmed Massoud.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.