From Wikipedia, the free encyclopedia
Pryd o fwyd o Wlad Thai yw pad thai. Mae'n cynnwys nwdls reis tro-ffriedig, ac mae'n boblogaidd fel bwyd stryd ac yn y mwyafrif o fwytai yng Ngwlad Thai a ledled y byd.[1] Mae'r cynhwysion fel arfer yn cynnwys nwdls reis, berdys, cyw iâr neu tofu, cnau daear, wyau wedi eu sgramblo, ac egin ffa. Bydd y rhain yn cael eu ffrio'n ysgafn mewn woc gyda saws pad thai.
Gwneir pad thai gyda nwdls reis sychedig wedi'u hail-hydradu sy'n cael eu tro-ffrio ag wyau a thofu cadarn wedi'i dorri, wedi'i flasu â mwydion tamarind, saws pysgod, berdys sychedig, garlleg neu sialóts, pupur chili coch a siwgr palmwydd. Caiff ei weini gyda sleisiau o leim a chnau daear wedi'u rhostio a'u torri.[2] Gall gynnwys llysiau eraill megis egin ffa, cennin syfi, radisys picl neu erfin, a blodau banana amrwd. Gall hefyd gynnwys berdys, cranc, môr-lewys, cyw iâr, cig moch, neu broteinau anifeiliaid eraill.
Mae nifer o'r cynhwysion yn cael eu darparu ar yr ochr fel cynfennau, megis y pupur chili coch, sleisiau leim, cnau daear wedi'u rhostio, egin ffa, sibols, ac amryw o lysiau ffres eraill.[3] Gall fersiynau llysieuol defnyddio saws soi yn lle'r saws pysgod, a hepgor y berdys yn llwyr.
Efallai cyflwynir nwdls reis wedi'u ffrio i Ayutthaya yn ystod amser y deyrnas Ayutthaya gan fasnachwyr Tsieineaidd[4], ac yna eu newid dros amser i adlewyrchu blasau Gwlad Thai.[5]
Mae'r awdur Mark Padoongpatt[6] yn honni nid yw pad thai yn bryd traddodiadol, dilys, sy'n mynd yn ôl cannoedd o flynyddoedd. Fe’i crëwyd mewn gwirionedd yn y 1930au yng Ngwlad Thai gan Plaek Phibunsongkhram, a oedd yn brif weinidog ar y pryd. Cafodd y pryd ei chreu oherwydd bod Gwlad Thai yn canolbwyntio ar adeiladu cenedl ar y pryd.[1] Felly fe greodd y pryd o fwyd hon gan ddefnyddio nwdls Tsieineaidd a'i galw'n pad Thai fel ffordd i sbarduno cenedlaetholdeb.[7]
Esboniad arall am darddiad pad thai yw bod Gwlad Thai, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi dioddef prinder reis oherwydd y rhyfel a llifogydd. Er mwyn lleihau'r defnydd o reis domestig, hyrwyddodd llywodraeth Gwlad Thai, o dan y Prif Weinidog Phibunsongkhram, defnydd o nwdls yn lle.[8] Hyrwyddodd y llywodraeth nwdls reis er mwyn helpu i sefydlu hunaniaeth Gwlad Thai.[1] O ganlyniad, crëwyd nwdls newydd o'r enw sen chan (a enwyd ar ôl y dalaith Chanthaburi). Ers hynny mae Pad thai wedi dod yn un o brydiau cenedlaethol y wlad.[9] Heddiw, mae rhai gwerthwyr bwyd yn ychwanegu porc neu gyw iâr (er nad oedd y rysáit wreiddiol yn cynnwys porc oherwydd amgyffrediad y llywodraeth taw cig Tsieineaidd oedd porc).[10]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.