From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Oradea (Hwngareg Nagyvárad, Almaeneg Großwardein) yn ddinas yn Rwmania, mewn sir o'r enw Bihor (BH), Transylvania. Mae gan y ddinas boblogaeth o 206,527 (yn ôl cyfrifiad 2002); dydy'r cyfanswm hwn ddim yn cynnwys ardaloedd y tu allan i'r bwrdreisdref, fyddai o gyfri'r ardaloedd hyn, yn codi'r boblogaeth i tua 220,000. Mae Oradea'n un o'r dinasoedd mwyaf llwyddiannus yn Romania.
Math | uned ddinesig o fewn Rwmania, prifddinas un o siroedd Rwmania, tref ar y ffin, dinas fawr |
---|---|
Prifddinas | Oradea |
Poblogaeth | 183,105 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Florin Birta |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Ceyrat, Coslada, Debrecen, Givatayim, Ivano-Frankivsk, Košice, Linköping Municipality, Mantova, Diamantina |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Bihor |
Gwlad | Rwmania |
Arwynebedd | 116.1 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 142 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Biharia |
Cyfesurynnau | 47.0722°N 21.9211°E |
Cod post | 410001–410609 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Oradea |
Pennaeth y Llywodraeth | Florin Birta |
Arddull pensaernïol | Art Nouveau, pensaernïaeth Faróc |
Mae'r ddinas yn agos at y ffîn gyda Hwngari, ac ar yr afon Crişul Repede.
Crybwyllir y dref yn gyntaf o dan yr enw Lladin Varadinum, yn 1113 pan soniwyd am amddiffynfa Oradea - yn 1241, pan oedd angen adnewyddiadau cyflym cyn ymosodiad ar y dref gan y fyddin Mongol-Tataraidd o dan Batu Khan. Dechreuodd y dref dyfu yn y 1500au. Yn y 1700au cynlluniodd y peiriannwr o Fiena, Franz Anton Hillebrandt, y ddinas yn yr arddull baroque, a chodwyd llawer o dirnodau, er enghraifft yr Eglwys Gadeiriol Babyddol, Plas yr Esgob, a'r Muzeul Ţării Crişurilor (Amgueddfa Gwlad y Criş).
Mae Oradea wedi bod yn un o ddinasoedd mwyaf llwyddiannus Romania ers tro gan fod ffin Hwngari mor agos, gan wneud y ddinas yn fynedfa i Orllewin Ewrop.
Mae cyfradd diweithdra Oradea yn 6.0%, ychydig llai na chyfartaledd Romania, ond yn llawer mwy na chyfartaledd sir Bihor sydd oddeutu 2%. Mae Oradea'n cynhyrchu tua 63% o gynhyrchiadau diwydiannol y sir, gyda thua 34.5% o boblogaeth y sir. Y prif ddiwydiannau yw'r diwydiant dodrefn, y diwydiant gweol a dillad, troedwisgoedd a bwyd.
Yn 2003, agorodd ganolfan fasnachol y Farchnad Lotws yn Oradea – y ganolfan siopa mawr cyntaf i'w hagor yn y ddinas.
Yng ngyfrifiad 2002, roedd poblogaeth y ddinas wedi'u rhannu i'r grwpau ethnig canlynol:
Mae'r rhwydwaith drafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael eu rhedeg gan OTL. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys tair llinell tram (1R, 1N, 2, 3R, 3N) a rhai gwasanaethau bws. Mae gan y ddinas dair gorsaf, Central (Canolog), Vest (Gorllewinol) ac Est (Dwyrainol). Mae Gorsaf Vest yn yr ardal Ioşia, ac mae'r orsaf canolog (galwad "Oradea") yng nghanol y ddinas, ger yr ardal Vie.
Mae pensaernïaeth Oradea'n cymysg ei natur: ceirg adeiladau'r cyfnod Comiwnyddol yn yr ardaloedd y tu allan i ganol y ddinas, ac adeiladau hanesyddol pert yn yr arddull baroque yng nghanol y ddinas o'r amser pan oedd y ddinas yn rhan o'r Ymerodraeth Awstria-Hwngari.
Mae canol y ddinas yn hardd ac yn werth ymweliad, gan gynnwys sba iechyd Băile Felix neu daith trên i'r tu allan i'r ddinas.
Llefydd poblogaidd eraill:
Oradea webcam Archifwyd 2007-10-14 yn y Peiriant Wayback
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.