From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd ac awdures yw'r Farwnes Oona King a anwyd yn Sheffield, Lloegr ar 22 Hydref 1967. Ei theitl llawn yw'r Farwnes King of Bow, ac fel aelod o'r Blaid Lafur, bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Bethnal Green and Bow rhwng 1997 a 2005 pan drechwyd hi gan George Galloway, Respect Party. Cyn mynd yn wleidydd, roedd yn swyddog amrywiaeth yn Sianel 4.[1][2][3] [4]
Oona King | |
---|---|
Ganwyd | 22 Hydref 1967 Sheffield |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Mam | Murreil Hazel Stern |
Priod | Tiberio Santomarco |
Plant | Tullio Jahan Santomarco |
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Efrog, Prifysgol Califfornia, Berkeley. [5]
Ganwyd Oona King yn Sheffield, West Riding of Yorkshire, i Preston King, academydd Affricanaidd-Americanaidd, a'i wraig Iddewig-Seisnig, Murreil Hazel (g. Stern), ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol.[6] Modryb mamol Oona King yw'r meddyg Miriam Stoppard ac mae'r actor Ed Stoppard yn gefnder. Ar ochr ei thad, daw o linell o ymgyrchwyr hawliau sifil Americanaidd ac entrepreneuriaid llwyddiannus. Roedd ei thaid, ar ochr ei thad, yn ymgyrchydd hawliau sifil, sef Clennon Washington King, a'i wraig a'i hewyrth yw C.B. King, twrnai (neu 'gyfreithiwr') hawliau sifil arloesol yn Albany, Georgia. [7]
Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Haverstock, Crogsland Road yn Chalk Farm, Bwrdeisdref Camden. Cyd-ddisgyblion idd yno oedd y ddau frawd David Miliband a'i frawd Ed.[8]
Yn ei blwyddyn gyntaf fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Efrog, roedd King yn aelod am gyfnod byr o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd.[9] Yn ystod ei hail flwyddyn (1988–89), enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Califfornia, Berkeley a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth yn 1990.[9][10]
Cyn dod yn aelod seneddol, roedd King yn ymchwilydd yn Senedd Ewrop. Bu hefyd yn gweithio fel cynorthwyydd gwleidyddol i Glyn Ford ASE, Arweinydd y Blaid Lafur yn Senedd Ewrop, ac yn ddiweddarach i Glenys Kinnock ASE.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.