Oblast Murmansk
From Wikipedia, the free encyclopedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o oblastau Rwsia yw Murmansk (Rwseg: Му́рманская о́бласть, Murmanskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Murmansk. Poblogaeth: 795,409 (Cyfrifiad 2010).
Math | oblast |
---|---|
Prifddinas | Murmansk |
Poblogaeth | 656,438 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Q4138471 |
Pennaeth llywodraeth | Andrey Chibis |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, Ewrop/Moscfa |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 144,902 km² |
Yn ffinio gyda | Oblast Arkhangelsk, Karelia, Lapland, Finnmark, Troms og Finnmark |
Cyfesurynnau | 68.03°N 34.57°E |
RU-MUR | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Murmansk Oblast Duma |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Murmansk Oblast |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrey Chibis |
Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol, yn bennaf ar Benrhyn Kola, ac mae'n rhan o ranbarth diwylliannol Lapland sy'n cynnwys pedair gwlad. Mae'n gorwedd bron yn gyfan gwbl i'r gogledd o Gylch yr Arctig. Mae Oblast Murmansk yn ffinio gyda Karelia, swydd Finnmark yn Norwy a Thalaith Lapland yn y Ffindir. Mae ganddo arfordir ar lan Môr Barents a'r Môr Gwyn. Mae Swydd Norrbotten yn Sweden yn agos hefyd (300 km).
Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth yr oblast yn fryniog, gan godi i'w phwynt uchaf ym Mynyddoedd Khibiny. Yn y gogledd ceir tundra, gyda taiga yn y de. Er gwaethaf ei leoliad gogleddol, mae'r hinsawdd yn llai oer na'r disgwyl oherwydd effaith Llif y Gwlff.
Sefydlwyd Oblast Murmansk ar Fai 28, 1938. Mae'n ardal o bwys strategol i Rwsia; mae gan Llynges Ogleddol Rwsia ei phencadlys yn Severomorsk, 25 km i'r gogledd o Murmansk.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.