gwleidydd Cymreig ac AS Blaenau Gwent From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Nicholas Desmond John (Nick) Smith (ganwyd 14 Ionawr 1960) yn wleidydd Plaid Lafur Cymreig sydd wedi cynrychioli Blaenau Gwent fel Aelod Seneddol ers etholiad cyffredinol 2010. Rhwng 1998 a 2006 bu'n gynghorydd Bwrdeistref Camden.[1]
Nick Smith | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ionawr 1960 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Priod | Jenny Chapman |
Ganwyd Smith yng Nghaerdydd yn fab i William Thomas Smith ac Alma Anne ei wraig. Cafodd ei fagu yn Nhredegar, lle derbyniodd ei addysg yn yr ysgol gyfun leol cyn mynychu Prifysgol Coventry lle graddiodd BA mewn Hanes, Gwleidyddiaeth a Pherthnasau Rhyngwladol. Ym 1991 fe enillodd gradd MSc mewn Economeg a Newid Cymdeithasol o Goleg Birbeck, Prifysgol Llundain.[2]
Yn 2014 priododd ei gyd Aelod Seneddol Llafur Jennifer Chapman, AS Darlington (2010 - cyfredol)[3] mae ganddo ddwy ferch o briodas flaenorol.
Cyn cael ei ethol bu Smith yn gweithio fel trefnydd i'r Blaid Lafur ac fel trefnydd i elusennau. Rhwng 1989 a 1991, bu'n drefnydd etholaethol i Frank Dobson, AS Holbourn a St Pancras. Rhwng 1991 a 1993 bu'n drefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru. Rhwng 1993 a 1998 bu'n gweithio ym Mhencadlys Llafur yn Llundain lle fu'n gyfrifol am ddatblygu ymgyrch cynyddu aelodaeth y blaid. Rhwng 1998 a 2000 bu'n gweithio fel ymgynghorydd ar ymgyrchu rhyngwladol gan wneud gwaith i'r Blaid Democrataidd yn yr UDA a Sefydliad Democratiaeth San Steffan. Rhwng 2005 a 2006 bu'n Ysgrifennydd i grŵp Aelodau Senedd Ewrop y Blaid Lafur.
Rhwng 2000 a 2004 bu'n Rheolwr ymgyrchoedd i'r Gymdeithas er Atal Creulondeb i Blant a rhwng 2006 hyd ei ethol yn 2010 bu'n gyfarwyddwr polisi Coleg Brenhinol Therapyddion Llefaredd ac Iaith.
Etholwyd Smith yn gynghorydd Llafur dros Ward King's Cross ar Gyngor Bwrdeistref Camden ym 1998 gan gael ei ail ethol yn 2002. Gwasanaethodd fel aelod o Gabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb am faes addysg o 2003. Ymneilltuodd o'r cyngor yn 2006 pan symudodd i Frwsel i weithio yn Senedd Ewrop.[4]
Yn 2007 cafodd ei ddethol yn darpar ymgeisydd Llafur yn etholaeth Blaenau Gwent. Bu Blaenau Gwent yn un o gadarnleoedd sicraf y Blaid Lafur, bu Michael Foot cyn Arweinydd y Blaid Lafur yn AS dros yr etholaeth a thros Glyn Ebwy, y cyn etholaeth a ragflaenodd Blaenau Gwent yn yr un ardal; bu Aneurin Bevan, un o arwyr Llafur hefyd yn AS dros Glyn Ebwy. Yn etholiad Cyffredinol 1997 roedd gan Llew Smith AS mwyafrif o dros 70%. Pan gyhoeddodd Llew Smith ei benderfyniad i beidio sefyll eto yn etholiad 2005 cododd anghydfod rhwng y Blaid Lafur lleol a'r Blaid Lafur canolog, roedd yr aelodau lleol am ddewis yr Aelod Cynulliad Peter Law fel olynydd i Llew Smith ond roedd y blaid ganolog yn mynnu bod yr ymgeisydd yn cael ei dethol o restr menywod yn unig. Safodd Law fel ymgeisydd plaid Annibynnol Llais Pobl Blaenau Gwent gan gipio'r etholaeth. Ar farwolaeth Law llwyddodd Dai Davies i gadw'r sedd i Lais y Bobl mewn isetholiad yn 2006. Bu'r ymgyrch rhwng Smith a Davies yn un fudur gyda Davies yn galw Smith yn Gynnyrch Llafur Newydd Blair a Smith yn ymateb trwy honni bod Davies yn gwneud dim ond taflu baw.[5]
Llwyddodd Smith i gipio Blaenau Gwent yn ôl i'r gorlan Llafur yn etholiad Cyffredinol 2010. Ers cael ei ethol mae Smith wedi ymgyrchu yn gryf ar achosion yn ymwneud â gofal plant a cham drin plant. Mae o wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'r Weinidog Cysgodol am Waith a Phensiynau a'r Ysgrifennydd Tramor Cysgodol[6]. Ers mis Medi 2015 bu'n gwasanaethu fel y Gweinidog Cysgodol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.