Nancy Ajram

From Wikipedia, the free encyclopedia

Nancy Ajram

Cantores boblogaidd o Libanus yw Nancy Nabil Ajram neu Nancy Agram (Arabeg: نانسي عجرم, ganed 16 Mai, 1983). Mae hi'n ferch i Nabil a Rimonda Ajram, o ardal Achrafieh yn Beirut.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Man preswyl ...
Nancy Ajram
Thumb
Ganwydنانسي نبيل عجرم‎ 
16 Mai 1983 
Ashrafieh 
Man preswylKeserwan District 
Label recordioEMI, In2Musica 
DinasyddiaethLibanus 
Alma mater
  • Collège Saint Joseph – Antoura 
Galwedigaethactor, canwr, dyngarwr, Singers 
SwyddLlysgennad Ewyllus Da UNICEF 
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, folk-pop, cerddoriaeth bop Arabaidd, cerddoriaeth Arabaidd, Khaliji 
Taldra168 centimetr 
Pwysau50 cilogram 
PriodFadi El Hachem 
Gwobr/au2008 World Music Awards 
Gwefanhttp://www.nancyajram.com/ 
Cau

Gyrfa gerddorol

Rhyddhaodd ei halbym cyntaf yn 1998. Cafodd Nancy ei gyfle cyntaf yn 12 oed ar y rhaglen Noujoum Al-Moustakbal, cystadleuaeth gerddorol ar deledu Libanus: perfformiodd un o ganeuon clasurol Umm Kulthum ac enillodd ei chategori. Torrodd drwodd i boblogrwydd yn 2003 gyda'r albym mawr Ya Salam a'r fideos cerddororiaeth a ddaethant allan ar yr un pryd.

Erbyn hyn mae Nancy Ajram (neu Nancy yn unig i'w ffans) yn un o'r enwau mwyaf yn y byd canu pop Arabeg ac yn enwog o Gasablanca i Gairo am ei chaneuon deniadol a'i phersonoliaeth fywiog sy'n arbennig o gofiadwy ar fideos cerddorol.

Yn gerddorol, mae ei chaneuon yn gyfuniad o ddylanwadau Arabaidd traddodiadol a sawl genre Gorllewinol, yn arbennig pop. Mae ei delwedd yn secsi, modern a herfeiddiol. I raddau mae hi a chantorion ifainc eraill o'i chenhedlaeth yn ddyledus iawn i waith cantorion poblogaidd cynharach fel Latifa sydd wedi gwneud llawer i newid delwedd a statws cyhoeddus merched yn y byd Arabaidd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.