bryngaer yn Llanbedr Dyffryn Clwyd From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Moel-y-Gaer yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, Cymru; cyfeirnod OS: SJ148617.
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Bryniau Clwyd |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.146°N 3.2742°W |
Cod OS | SJ14906175 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE010 |
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE010.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Sefydlwyd y gaer Geltaidd ar ei gopa yn Oes yr Haearn - tua 2500 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r fynedfa i mewn i'r gaer yn gymhleth ac wedi'i chreu o system o ffosydd er mwyn atal y gelyn rhag llwyddo i ymosod ar y gaer. Cafwyd peth cloddio gan yr archaeolegwr Wynne Ffoulkes yno yn 1849. Ceir golygfa gwych oddi yma: rhan deheuol o ddyffryn Clwyd, gyda Rhuthun ar y naill law a'r môr ar y llaw arall i gyfeiriad y gogledd. Tair hectar yw maint y gaer.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]
Cafwyd arolwg o'r gaer yn 2007 a darganfuwyd ôl 15 o dai a llawer o ôl llosgi, yn enwedig yn y fynedfa.[5]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.