Meddyginiaeth

sylwedd cemegol a ddefnyddir mewn diagnosis, iachâd, triniaeth, neu atal clefyd From Wikipedia, the free encyclopedia

Meddyginiaeth

Sylwedd cemegol a ddefnyddir mewn diagnosis, iachâd, triniaeth, neu i atal clefyd yw meddyginiaeth, moddion neu ffisig (hefyd cyffur meddyginiaethol neu gyffur fferyllol).

Ffeithiau sydyn Math, Rhan o ...
Meddyginiaeth
Thumb
Mathcyffur, medicinal product 
Rhan opharmacy 
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau

Defnyddir y System Ddosbarthiad Cemegol Therapiwtig Anatomegol (ATC), a reolir gan Ganolfan Gydweithiol Cyfundrefn Iechyd y Byd (WHO) dros Fethodoleg Ystadegau Cyffuriau, i ddosbarthu cyffuriau meddyginiaethol ers 1976.

Thumb

Meddyginiaethau traddodiadol ac amgen

  • Ffisig ysgall

Hawdd iawn yw anghofio cymaint oedd ein cyndeidiau yn dibynnu ar feddyginiaethau llysieuol tan yn gymharol ddiweddar:

13th. I continue taking the Elixir thrice this day, in the morn - fasting, at Noon, and 5 in the Evening, from 30 to 40 drops at a time, & drink a pint and a half of Carduus [hwn yw’r gair Lladin am ysgall] Whey hot every night going to bed.[1]
  • Opiwm

Syndod efallai yw gweld cyfeiriadau mynych at laudenum yng nghefn gwlad Cymru (opiad neu gyffur cysgu yn seiliedig ar y pabi ac yn cael ei ddefnyddio llawer yn Oes Fictoria yw hwn) ac ‘obadildo’ (beth bynnag oedd hwnnw!) yng nghefn dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron ar gyfer y flwyddyn 1897.[2]
Arferai’r beirdd gymryd laudenum i hybu’r awen - beirdd fel Samuel Taylor Coleridge. Cafodd Coleridge ei styrbio ynghanol cyfansoddi ei gerdd enwog Kubhla Khan dan ddylanwad y cyffur hwn ac erbyn iddo ddychwelyd at y gwaith roedd yr awen wedi diflannu. Bu hen regi mae’n siŵr!
Sylwodd Brenda Jones, trawsgrifydd dyddiaduron William Jones, bod ei ysgrifen wedi mynd yn flêr o Chwefror ymlaen . Effaith y ‘cyffuriau’ hyn o bosib?

  • Moddion at anhwylderau eraill

Mae William Jones yn nodi moddion i wella anhwylderau:

  • Cymhorth i wella Ffliw Rwsia
Ammoniated tincture of quinine ½ oz
Essence of Peppermint ¼ oz
Bromide of ammonium ½ oz
Spirit of sweet nitre ½ oz
Simple syrup made by boiling 1 lb lump sugar in half peint of water 1oz
Ysgydwer y cymysgedd yn achlysurol hyd nes byddo y cyfan wedi toddy Cymerer llond llwy de mewn dwy lond llwy fwrdd o ddwfr oer bob awr hyd nes cael rhyddhad Prysurir y gwellhad drwy ysbrinclo ychydig o menthol crystals ar lwy ar shovel boeth a thynu yr ager i fewn gyda’r anadl (1891).


Yn ôl hysbyseb yn ei ddyddiadur, dyma oedd ar gael at anhwylderau yn 1880:[3]

  • Cynghor at y Gravel
½ oz Balsam Cabtinty
½ oz Tincture Rubarb
1 oz Spirit Nitre
Dwy lond llwy de dair gwaith yn y dydd mewn llond glass gwin o lefrith.


Mathau

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.