Gwyddorau fferyllol

From Wikipedia, the free encyclopedia

Gwyddorau fferyllol

Grŵp o feysydd rhyngddisgyblaethol yw'r gwyddorau fferyllol sydd yn ymwneud â dyluniad, gweithrediad, gweiniad, natur, a defnydd cyffuriau. Mae'r maes yn tynnu ar nifer o ddisgyblaethau'r gwyddorau sylfaenol a chymhwysol, megis cemeg (organig, anorganig, ffisegol, biocemegol, a dadansoddol), bioleg (anatomeg a ffisioleg, biocemeg, bioleg cell, a bioleg foleciwlaidd), epidemioleg, ystadegaeth, cemometreg, mathemateg, ffiseg, a pheirianneg gemegol, ac yn cymhwyso eu hegwyddorion at astudiaeth cyffuriau.

Amrywiadau ar ddyluniad cyffredin o dabled, a ellir eu gwahaniaethu gan liw a siâp.

Isrennir y gwyddorau fferyllol yn nifer o arbenigeddau penodol, â phedair brif gangen:

  • Ffarmacoleg: astudiaeth yr effeithiau biocemegol a ffisiolegol sydd gan gyffuriau ar fodau dynol.
    • Ffarmacoddynameg: astudiaethau y rhyngweithiadau cellog a moleciwlaidd rhwng cyffuriau a'u derbynyddion.
    • Ffarmacocineteg: astudiaeth y ffactorau sy'n rheoli crynodiad y cyffur mewn rhannau'r corff.
    • Tocsicoleg fferyllol: astudiaeth yr effeithiau niweidiol neu wenwynig sydd gan gyffuriau.
    • Ffarmacogenomeg: astudiaeth yr etifeddiaeth sydd gan batrymau nodweddiadol o ryngweithiadau rhwng cyffuriau ac organebau.
  • Cemeg fferyllol: astudiaeth dylunio cyffuriau er mwyn optimeiddio ffarmacocineteg a ffarmacoddynameg, a synthesis moleciwlau cyffur newydd.
  • Fferylleg: astudiaeth a dyluniad fformwleiddio cyffuriau er gweiniad, sefydlogrwydd, ffarmacocineteg, a chydymffurfiad gan y claf i'r gorau posibl.
  • Ffarmaconoseg: astudiaeth y priodweddau ffisegol, cemegol, biocemegol, a biolegol sydd gan gyffuriau, cyffuriau potensial, neu gyffuriau o ffynhonnell naturiol yn ogystal â chwilio am gyffuriau newydd o ffynonellau naturiol.

Mae fferylliaeth yn ymwneud â gwaith y fferyllydd, sef defnyddio meddyginiaeth yn ddiogel ac effeithiol.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: gweini cyffuriau, ffarmaconoseg o'r Saesneg "drug delivery, pharmacognosy". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.