Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Duw a addolid yn yr Ymerodraeth Rufeinig o'r ganrif gyntaf O.C. hyd y 4g oedd Mithras. Ceir tystiolaeth o bresenoldeb Mithräeth o wahanol leoedd ar draws yr ymerodraeth, ac ymddengys ei bod yn arbennig o boblogaidd ymysg milwyr. Nid oes sicrwydd am ddechreuad y grefydd, ond ymddengys iddi gyrraedd yr ymerodraeth o'r dwyrain, efallai o Asia Leiaf. Parhaodd hyd nes i'r ymerawdwr Theodosiws I wahardd pob crefydd heblaw Cristnogaeth yn 391.
Enghraifft o'r canlynol | Greco-Roman mysteries |
---|---|
Math | ardal o fewn Rhufain hynafol |
Gwladwriaeth | Rhufain hynafol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Efallai i Fithräeth ddechrau yn Iran a'r ardaloedd cyfagos, lle ceir enw Mithras mewn cynghrair rhwng yr Hethiaid a Mitanni tua 1400 CC. Ceir cyfeiriad aro yn y Fedâu yn India. Yn yr Avesta Iranaidd, mae'n dduwdod da, cyngheiriad Ahura Mazda, ac fe'i gelwir yn ‘farnwr yn enediau’. Er hynny, nid oes sicrwydd fod y Mithras yma yr un duwdod a'r Mithras a addolid yn y Mithräeth.
Roedd Mithräeth yn un o gyfrin-grefyddau, lle roedd aelodau newydd yn dod yn Fithräyddion trwy seremonïau oedd yn dadlennu cyfrinachau'r grefydd iddynt. Addolid Mithras mewn temlau o'r enw mithraeum. Ogofâu naturiol oedd y rhain ar y cychwyn, yna adeiladau oedd yn dynwared ogofâu. Nid oedd gan y grefydd ysgrythyrau. a rhaid dyfalu ei dysgeidiaeth o'r lluniau a cherfluniau sydd wedi eu cadw. Ymddengys i'r duw Mithras gael ei eni o graig gerllaw ffynnon santaidd. Lladdodd y tarw cyntefig mewn ogof.
Roedd saith gradd o Fithräyddion:
Ceir un mithraeum yng Nghymru, Mithraeum Caernarfon, gerllaw caer Rufeinig Segontium.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.