Remove ads
ymerawdwr Rhufain From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Flavius Theodosius (11 Ionawr 347 – 17 Ionawr 395), a elwir hefyd yn Theodosiws I a Theodosiws Fawr, yn Ymerawdwr Rhufain rhwng 379 a 395. Ad-unodd rannau dwyreiniol a gorllewinol yr ymerodraeth, ac ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth Gristionogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.
Theodosius I | |
---|---|
Ganwyd | Theodosius 11 Ionawr 347 Coca, Italica |
Bu farw | 17 Ionawr 395 Milan |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd, Conswl Rhufeinig |
Dydd gŵyl | 17 Ionawr |
Tad | Flavius Theodosius |
Mam | Thermantia |
Priod | Aelia Flaccilla, Galla |
Plant | Galla Placidia, Flavius Augustus Honorius, Arcadius, Pulcheria, Gratianus |
Perthnasau | Serena |
Llinach | Llinach Theodosius, Valentinianic dynasty |
Ganed Theodosiws yn Cauca (Coca heddiw) yn Sbaen. Roedd ei dad, hefyd o'r enw Theodosiws, yn swyddog uchel yn y fyddin. Aeth Theodosiws y mab gyda'i dad i Brydain yn 368, ac yna gwnaed ef yn reolwr milwrol (dux) talaith Moesia ar Afon Donaw yn 374. Yn fuan wedyn dienyddiwyd ei dad, a dychwelodd Theodosiws i Cauca.
O 375 ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: Valens, Valentinian II a Gratian. Pan laddwyd Valens ym Mrwydr Adrianople yn 378, penododd Gratian Theodosiws yn ei le fel cyd-augustus yn y dwyrain. Lladdwyd Gratian mewn gwrthryfel yn 383, a chyhoeddodd Macsen Wledig (Magnus Maximus) ei hun yn gyd-ymerawdwr yn y gorllewin, gan feddiannu holl daleithiau'r gorllewin heblaw yr Eidal. Yn 387 ymosododd Macsen ar yr Eidal, ond gorchfygodd Theodosiws ef a'i ladd.
Bu farw Valentinian II yn 392, gan adael Theodosiws yn unig ymerawdwr. Cyhoeddodd y magister militum Arbogast gyd-ymerawdwr newydd, Eugenius, yn lle Valentinian. Ceisiodd Eugenius adfer paganiaeth, ond gorchfygwyd ef gan Theodosiws ym mrwydr Frigidus.
Priododd Theodosiws ddwywaith. Gan ei wraig gyntaf, Aelia Flaccilla, cafodd ddau fab, Arcadius a Honorius a merch, Pulcheria. Wedi marwolaeth Aelia Flaccilla yn 385, priododd Galla, merch Valentinian I, a chawsant ferch, Galla Placidia, mam yr ymerawdwr Valentinian III. Dilynwyd Theodosiws gan ei ddau fab, Honorius yn y gorllewin ac Arcadius yn y dwyrain.
Rhagflaenydd: Gratianus Valens a Valentinian II |
Ymerawdwr Rhufain 379–395 |
Olynydd: Honorius (yn y gorllewin) Arcadius (yn y dwyrain) |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.