Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Mission: Impossible III (2006) yn ffilm gyffro sy'n serennu Tom Cruise fel yr asiant IMF (Impossible Mission Force), Ethan Hunt. Dyma'r drydedd ffilm ysbiol sy'n seiliedig ar y gyfres deledu.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | J. J. Abrams |
Cynhyrchydd | Tom Cruise Paula Wagner |
Ysgrifennwr | Alex Kurtzman Roberto Orci J. J. Abrams |
Serennu | Tom Cruise Jonathan Rhys Meyers Philip Seymour Hoffman Ving Rhames Michelle Monaghan Billy Crudup Laurence Fishburne Maggie Q Simon Pegg Keri Russell Eddie Marsan |
Cerddoriaeth | Michael Giacchino |
Sinematograffeg | Dan Mindel |
Golygydd | Maryann Brandon Mary Jo Markey |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | UDA 5 Mai 2006 DU & Awstralia 4 Mai, 2006 |
Amser rhedeg | 126 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyfarwyddwyd y ffilm gan J. J. Abrams. Fe'i rhyddhawyd ar y 26 Ebrill, 2006, yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca cyn cael ei rhyddhau'n gyffredinol ar y 5ed o Fai, 2006. Dechreuwyd ar y broses ffilmio yn Rhufain, yr Eidal yng Ngorffennaf 2005. Ychydig iawn o wybodaeth a ddatgelwyd am blot y ffilm cyn iddi gael ei rhyddhau. Cafodd ei ffilmio hefyd yn Tsieina (Shanghai, Xitang, a Zhouzhuang), yr Almaen (Berlin), yr Eidal (Rhufain a Caserta), yr Unol Daleithiau (Califfornia a Virginia), a Dinas y Fatican.
Yn ogystal â'r drydedd ffilm hon, cynhwysa'r gyfres y ffilmiau canlynol: Mission: Impossible (1996), Mission: Impossible II (2000), Mission: Impossible - Ghost Protocol (2011), Mission: Impossible – Rogue Nation (2015),[1] a Mission: Impossible - Fallout (2018).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.