Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llid ar y meninges, y pilennau sy'n gorchuddio'r ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn, yw meningitis neu lid y freithell neu lid yr ymennydd.[1] Gan amlaf achosir yr haint gan firws, ond gall hefyd gael ei achosi gan facteria sy'n arwain at gyflwr mwy ddwys a difrifol na'r ffurf firaol.[2]
Mae gan unrhyw facteria neu firws y potensial o achosi meningitis.[3]
Achosir meningitis bacteriol gan germau sy'n byw'n naturiol yng nghefn y trwyn a'r gwddf a gallant gael eu lledaenu drwy gyswllt maith agos, peswch, tisian, a chusanu. Mae'r heintiau sy'n achosi meningitis yn cynnwys Hib, twbercwlosis, E. coli, bacteria streptococol Grŵp B, a'r achos mwyaf cyffredin o feningitis bacteriol yn y Deyrnas Unedig, bacteria meningococaidd neu niwmococol.[3]
Achosir meningitis firaol gan firysau megis coxsackie, herpes simplecs, clwy'r pennau, firws faricela soster (brech yr ieir a'r eryr), poliofirws, ac ecofirysau (gan gynnwys enterofirysau). Gall germau gael eu lledaenu drwy beswch, tisian, hylendid gwael, neu ddŵr sydd wedi'i lygru â charthion.[3]
Mae'n bosib hefyd i meningitis fod yn nodwedd o glefydau eraill, gan gynnwys clefyd Lyme, leptosbirosis, teiffws, a thwbercwlosis.[3]
Gall symptomau mewn oedolion a phlant hŷn gynnwys cur pen cyffredinol cyson; dryswch; twymyn, er gall dwylo a thraed fod yn oer; teimladau cysglyd; chwydu; poen stumog, weithiau gyda dolur rhydd; anadlu cyflym; anystwythder yn y gwddf (bydd symud yr ên i'r frest yn boenus wrth gefn y gwddf); brech o smotiau neu gleisiau coch neu borffor (neu'n dywyllach na'r arfer ar groen tywyll) nad yw'n pylu pan gaiff rhywbeth ei bwyso arno; poen yn y cymalau neu yn y cyhyrau; a sensitifrwydd i oleuadau llachar neu olau ddydd. Gall symptomau mewn babanod a phlant ifanc gynnwys twymyn, er gall dwylo a thraed fod yn oer; chwydu a gwrthod bwyd; griddfan uchel ei sain neu gwynfan; golwg rhythu gwag; croen gwelw a choslyd; bod yn llipa; yn casáu cael eu dal neu eu cyffwrdd; bod yn gwynfanllyd; gwrthdynnu'r gwddf a chrymu'r cefn; confylsiynau; yn swrth ac yn anodd eu dihuno; a ffontanél tyn neu foliog. Mae arwyddion rhybudd cynnar allweddol o fewn plant dan 17 oed yn cynnwys symptomau gwenwyn gwaed sef dwylo a thraed oer, coesau poenus, a lliw annormal ar y croen. Gall y symptomau hyn ymddangos oriau cyn symptomau fel sensitifrwydd i olau llachar a brech.[4]
Gall unrhyw rai o'r symptomau hyn ymddangos mewn unrhyw drefn dros 1–2 ddiwrnod, neu ymhen ychydig oriau o ddatblygu meningitis bacteriol. Gan fod rhai o'r symptomau yn debyg iawn i symptomau'r ffliw, mae'n bosib na fydd yn hawdd adnabod yn gynnar taw symptomau meningitis ydynt. Mewn babanod a phlant ifanc, gall marwolaeth ddigwydd ymhen ychydig oriau os na chaiff ei drin. Mewn rhai achosion, bydd yr afiechyd acíwt yn datblygu'n gyflwr cronig, a all arwain at niwed difrifol i'r ymennydd.[4]
Mae meningitis firaol yn llai difrifol na meningitis bacteriol, ond yn achlysurol iawn gall ddatblygu o fod yn symptomau weddol ysgafn megis pen tost neu gur pen, twymyn, a theimladau cysglyd i fod yn goma dwfn. Mewn achosion difrifol, gall fod gwendid yn y cyhyrau, parlys, tarfiadau ar y lleferydd, golwg dwbl neu golled rannol ym maes y golwg, a ffitiau epileptig. Mae'r mwyafrif o gleifion sy'n dioddef o feningitis firaol yn gwella'n llwyr o fewn wythnos i bythefnos, ond weithiau bydd problemau hirdymor gan y claf megis nam ar y clyw neu'r cof.[4]
Gwneir diagnosis o feningitis ar sail symptomau ac arwyddion clinigol, meithrin germau o waed y claf, a chanlyniadau pigiad meingefnol. Mae gwddf anystwyth yn arwydd pwysig wrth ystyried diagnosis o feningitis.[5]
Yn y DU os yw meningitis yn cael ei amau mae'n rhaid rhoi gwrthfiotigau ar unwaith i'r claf heb aros am gadarnhâd o'r diagnosis gan feithriniad y germau.[5]
Mae triniaeth frys gyda gwrthfiotigau a rheolaeth briodol mewn ysbyty yn hanfodol i glaf sy'n dioddef o feningitis bacteriol. Y cyflymaf y gwneir diagnosis a'u bod yn cael triniaeth, y mwyaf bydd eu siawns o wella'n llwyr o'r clefyd. Weithiau bydd unrhyw un sydd wedi bod mewn cyswllt uniongyrchol, agos, hirfaith â'r claf sydd wedi'i heintio (fel arfer, aelodau teuluol a'r rhai yr ystyrir eu bod yn wynebu mwy o risg) gael gwrthfiotigau amddiffynnol priodol.[6]
Nid yw gwrthgyrff yn gallu trin yn erbyn meningitis firaol ac felly mae'r driniaeth yn seiliedig ar ofal nyrsio da. Fel arfer bydd gwella llwyr yn bosibl, ond gall rhai symptomau, megis cur pen, blinder, ac iselder, barháu am wythnosau neu hyd yn oed am fisoedd.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.