From Wikipedia, the free encyclopedia
Mynydd 4,478 metr o uchder yn yr Alpau yw'r Matterhorn (Almaeneg: Matterhorn, Eidaleg: Cervino). Saif ar y ffin rhwng y Swistir a'r Eidal, uwchben Zermatt yn y Swistir a Breuil-Cervinia yn yr Eidal.
Math | mynydd, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Italy–Switzerland border |
Sir | Valais, Valle d'Aosta |
Gwlad | Y Swistir Yr Eidal |
Uwch y môr | 4,478 metr |
Cyfesurynnau | 45.9764°N 7.6586°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 1,043 metr |
Rhiant gopa | Weisshorn |
Cadwyn fynydd | Pennine Alps |
Deunydd | craig fetamorffig |
Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 14 Gorffennaf, 1865, gan Edward Whymper, Charles Hudson, Yr Arglwydd Francis Douglas, Douglas Robert Hadow, Michel Croz a'r ddau Peter Taugwalder, tad a mab, ar hyd crib Hörnli ar yr ochr Swisaidd. Lladdwyd Hadow, Croz, Hudson a Douglas ar y ffordd i lawr o'r copa.
Ar hyd crib Hörnli yw'r ffordd arferol o ddringo'r mynydd. Cafodd nifer o fynyddoedd eraill ar draws y byd y llysenw "Matterhorn" am fod yn ffurf yn debyg; weithiau gelwir Cnicht yn "Matterhorn Cymru".
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.