From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures sosialaidd o Ffrainc a Rwmania oedd Marthe Bibesco (28 Ionawr 1886 - 28 Tachwedd 1973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, awdur ysgrifau, nofelydd, a chofiannydd. Gelwir hi hefyd yn "Marthe, Tywysogaes Bibesco"; Marthe Lucie; née Lahovary. Mae ei phapurau, ei gweithiau gwreiddiol, yng Nghanolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas, Austin, UDA. Bu'n briod i George Valentin Bibescu ac roedd Valentine Bibesco yn blentyn iddi.
Marthe Bibesco | |
---|---|
Ffugenw | Lucile Decaux |
Ganwyd | Marthe Lucie Lahovary 28 Ionawr 1886 Bwcarést |
Bu farw | 28 Tachwedd 1973 4ydd arrondissement Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | bardd, awdur ysgrifau, nofelydd, llenor, cofiannydd |
Tad | Ioan Lahovary |
Priod | George Valentin Bibescu |
Plant | Valentine Bibesco |
Perthnasau | Constantin Lahovary |
Gwobr/au | Gwobr Marcelin Guérin, Gwobr Gustave Le Métais-Larivière, Chevalier de la Légion d'Honneur |
Fe'i ganed yn Bwcarést ar 28 Ionawr 1886; bu farw ym Mharis. Roedd ei thad, a oedd wedi cael ei addysgu yn Ffrainc, yn gweithio fel gweinidog Teyrnas Rwmania ym Mharis ac yn ddiweddarach, fel gweinidog materion tramor Romania.[1][2][3][4][5][6]
Ei henw bedydd oedd Marta Lucia Lahovary (a sillefir hefyd yn 'Lahovari'), a hi oedd trydydd plentyn Ioan Lahovary a'r Dywysoges Emma Mavrocordat. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar ar Ystad Lahovary yn Balotești ac arfordir Ffrainc yn Biarritz. Yn 1900 cyfarfu â Thywosog Ferdinand, etifedd Coron Rwmania a dyweddiodd y ddau, yn dawel. Ond ar ôl blwyddyn, a hithau'n 17 oed, priododd Marthe gyda Thywysog George III Valentin Bibescu (Bibesco), disgynnydd un o deuluoedd cyfoethocaf y wlad.
Roedd yn rhugl mewn Ffrangeg yn ifanc iawn (hyd yn oed cyn iddi allu siarad Rwmanieg), a threuliodd Marthe flynyddoedd cyntaf ei phriodas gyda'i mam-yng-nghyfraith, y Dywysoges Valentine Bibesco (née iarlles Riquet de Caraman-Chimay), a'i haddysgwyd mewn materion Ewropeaidd, gan gynnwys hanes a llenyddiaeth Ewrop. ond cafodd addysg bur wahanol yn ogystal â hyn, gan werinwr hoffus o'r enw Baba Uta [Outza], a adroddodd iddi hen chwedlau gwerin Rwmania. Yn y cyfamser, roedd ei gŵr, George, yn mwynhau ceir cyflym a menywod eraill, ond yn ychwanegu at ffortiwn y teulu ar yr un pryd.
Yn 1908 cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, a oedd yn seiliedig ar un o'i theithiau; cafodd y gyfrol groeso a chanmoliaeth mawr gan y beirniaid llenyddol Ffrengig. Y llyfr, Les Huit Paradis ("Wyth Paradwys"), oedd cychwyn ei gyrfa lenyddol. Hi oedd Belle Epoque Paris, a chymdeithasodd yn hawdd ymysg y llenorion a'r gwleidyddion, fel y'i gilydd. Anrhydeddwyd hi gyda Gwobr Prix de l'Academie Française a chyfarfu a Marcel Proust, a ddanfonodd lythyr ati'n brolio ei llyfr: "Rwyt yn sgwennwr ardderchog, Dywysoges, a hefyd yn cerflunio geiriau, yn gerddor geiriau ac yn fardd!"
Bu'n aelod o Academi Frenhinol Gwlad Belg, iaith a llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [7][8]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.