From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd, nofelydd, llenor straeon byrion, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Mario Benedetti (14 Medi 1920 – 17 Mai 2009). Cyhoeddodd mwy na 80 o lyfrau yn ystod ei oes.[1]
Mario Benedetti | |
---|---|
Ffugenw | Damocles, Mario Benedetti |
Ganwyd | Mario Orlando Hardy Hamlet Brenno Benedetti Farrugia 14 Medi 1920 Paso de los Toros |
Bu farw | 17 Mai 2009 o asthma Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, bardd, dramodydd, gwleidydd, nofelydd, awdur storiau byrion |
Adnabyddus am | The Truce |
Arddull | barddoniaeth, theatre, traethawd |
Plaid Wleidyddol | Broad Front |
Mudiad | La Generación del 45 |
Gwobr/au | Urdd Francisco de Miranda, honorary doctor of the University of Alicante, honorary doctorate of the University of Valladolid, Menéndez Pelayo International Prize, Morosoli Award, honorary doctor of the University of Havana |
Ganwyd yn Paso de los Toros, Tacuarembó, i fewnfudwyr Eidalaidd. Symudodd y teulu i'r brifddinas Montevideo pan oedd Mario yn 4 oed, ac yno mynychodd ysgol breifat.[2]
Bu'n byw yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, am gyfnod cyn iddo ddychwelyd ym Montevideo yn nechrau'r 1940au. Yn 1945 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, La víspera indeleble, ac ymunodd â'r cylchgrawn adain-chwith Marcha. Benedetti oedd un o sefydlwyr Frente Amplio, mudiad adain-chwith cyffredin yn Wrwgwái.[1] Priododd Luz López Alegre yn 1946, a buont yn briod nes ei marwolaeth hi o glefyd Alzheimer yn 2006.[3] Mae ei gyfrolau eraill o farddoniaeth yn cynnwys Poemas de la oficina (1956). Ymhlith ei gasgliadau o straeon byrion mae Montevideanos (1959), ac ymhlith ei nofelau mae La tregua (1960) ac El cumpleaños de Juan Angel (1971).
Wedi i'r unbennaeth sifil-filwrol gipio grym yn 1973, bu'n rhaid i Benedetti adael Wrwgwái, ac aeth yn alltud yn yr Ariannin. Yno cafodd ei fygwth gan un o grwpiau parafilwrol yr adain dde, ac aeth i Beriw am chwe mis nes iddo gael ei allgludo. O'r diwedd, ymsefydlodd yng Nghiwba, a gweithiodd i'r cwmni cyhoeddi Casa de las Américas. Ysgrifennodd am ei brofiadau'n alltud yn y gyfrol El desexilio y otras conjeturas (1984).
Dychwelodd i Montevideo yn 1983, a bu'n teithio i Fadrid a Mallorca am gyfnodau hirion.[1] Bu farw ym Montevideo yn 88 oed.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.