Casgliad o dafodieithoedd Polynesaidd Canolog-Ddwyreiniol yw Marceseg (Marceseg, ‘Te Eo ‘Enana (Marceseg y Gogledd) a Te ‘Eo ‘Enata (Marceseg y De[1]) a siaredir yn Ynysoedd Marquesas sy'n rhan o Polynesia Ffrengig. Maen nhw'n perthyn i'r ieithoedd Marcesaidd, grŵp ehangach sy'n cynnwys Hawaieg. Fe'u dosberthir fel arfer yn ddau grŵp, Marceseg y Gogledd a Marceseg y De, yn fras ar hyd llinellau daearyddol.[2] Mae niferoedd y siaradwyr yn isel iawn; oddeutu 5,700 yn siarad gwahanol dafodieithoedd Marceseg y Gogledd[3] ac ond oddeutu 2,700 o siaradwyr tafodiaith Marceseg y De.[4]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Marceseg
Thumb
Enghraifft o'r canlynoliaith naturiol, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathMarquesic Edit this on Wikidata
Rhan oIeithoedd rhanbarthol Ffrainc, Polynesia Ffrengig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMarceseg y Gogledd, Marceseg y De Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 6,000
  • System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Cau

    Hanes

    Thumb
    Brodor o Ynysoedd Marquesas, manlwad yr iaith Marceseg o Hapatoni ar ynys Tahuata (2018)

    Yn ôl damcaniaethau ail-greu hanesyddol mae Marceseg y Gogledd a Marceseg y De yn rhannu nifer o arloesiadau ffonolegol sy'n digwydd yn y 10g OC sy'n eu gwahaniaethu fel is-grŵp annibynnol o Proto-Tahitic (hynny yw, Tahitïeg, Tuamotuan, Rarotongeg (iaith Ynys y Pasg) a Maori). Yr ieithoedd Polynesaidd Dwyreiniol sy'n perthyn agosaf i Marceseg y Gogledd a'r De yw Hawaieg a Mangarefeg (Mangarevan) sy'n ffurfio'r is-grŵp Proto-Marceseg.[1]

    Er meddiannu'r ynysoedd gan Ffrainc yn 19g mae dylanwad y Ffrangeg i'w weld ar yr iaith.

    Ffonoleg

    Nodwedd fwyaf trawiadol yr ieithoedd Marceseg yw eu bod yn disodli'r /r/ neu /l/ a geir mewn ieithoedd Polynesaidd eraill gan /ʔ/ (ataliad glotal) bron bob tro.[5]

    Fel ieithoedd Polynesaidd eraill, nodweddir seinyddiaeth ieithoedd Marceseg gan brinder cytseiniaid a thoreth o lafariaid.

    Marceseg Gog. Marceseg De.
    haka fana "bae"
    haʻe faʻe "tŷ"
    koe ʻoe "ti" (unigol)
    Ua Huka Ua Huna (enw ynys)

    Yr Wyddor

    A E F H I K M N O P R S T U V ʻ
    a e f h i k m n o p r s t u v ʻ [6]

    Amrywiaeth tafodieithol

    Thumb
    Baner Ynysoedd Marquesas sy'n rhan o Bolynesia Ffrangig

    Siaredir Marceseg y Gogledd yn yr ynysoedd gogleddol (Nuku Hiva, Ua Pou, a Ua Huka ), a Marceseg y De yn ynysoedd y de (Hiva Oa, Tahuata, a Fatu Hiva). Yn Ua Huka, a gafodd ei ddiboblogi bron yn gyfan gwbl yn y 19g ac a ailboblogwyd gyda phobl o'r Gogledd a'r De, mae'r iaith yn rhannu nodweddion Marceseg y Gogledd a Marceseg y De. Ceir data cymharol ar dafodieithoedd amrywiol yn y Linguistic Atlas of French Polynesia (Charpentier & François 2015).[5]

    Y gwahaniaethau mwyaf amlwg rhwng y mathau yw bod gan Marceseg y Gogledd /k/ mewn rhai geiriau lle mae gan Marceseg y De /n/ neu /ʔ/ (ataliad glotal), a /h/ ym mhob gair lle mae gan Marceseg y De /f/.

    Cyd-destun

    Mae Marceseg yn amlwg yn gwahaniaethu oddi wrth Tahitïeg (50% cyd-ddealltwriaeth, geirfa debyg rhwng 45 a 67%) neu Paumotu (29%).

    Mae gan Marceseg berthynas agos ag ieithoedd Polynesaidd dwyrain Polynesia, gan gynnwys iaith Maori Ynysoedd Cook, Maori yn Seland Newydd, iaith Rapa Nui, ac yn fwy arbennig yr Hawaieg, a dywedir bod ffurf gynnar ar y Farceseg wedi esgor ar yr Hawaieg.

    Statws

    Sefydlwyd Academi Marceseg gan Gynulliad Polynesia Ffrengig (y senedd) yn sgil pasio deddf 2000-19 APF, 27 Ionawr 2000. Ei enw yw "Tuhuna 'Eo Enata" yn Marceseg a'r "Académie marquisienne" yn Ffrangeg. Ei chenhadaeth yn benodol yw diogelu a chyfoethogi'r iaith Farceseg.

    Mae'r iaith o dan fygythiad. Mae nifer bychan y siaradwyr yn her a'r gwahaniaethau rhwng y ddau brif dafodiaith yn amharu ar undod y gymuned ieithyddol. Ond nodir hefyd ers yr 1980au gellir arsylwi ar lefelu tafodiaith (hynny yw, cyd-ddealltwriaeth a rhannu geirfa neu lleihau gwahaniaethau) yn barhaus. Mae benthyg geiriau brodorol o'r naill dafodiaieth i'r llall wedi creu llawer o eiriau cytras gyda dwy ffurf neu fwy weithiau (er enghraifft ko'aka - 'o'aka - ko'ana "canfod"; maha'e - ma'a'e - tuha'e " anghofio”).[1]

    Sillafu

    Mae Academi'r Marceseg wedi penderfynu disodli'r collnod sy'n nodi'r ataliad glotaidd ag acen ddisgynedig ​​ar y llafariad sy'n dilyn (gydag eithriadau).[7] Mae hin yn groes i'r defnydd eang ond ansicr weithiau o'r defnydd o'r ocina, sy'n edrych fel atalnod ac yn cael ei ddefnyddio i ddangos yr ataliad glotal (IPA: /ʔ/) yn ieithoedd eraill y cefnfor tawel, er enghraifft, y gair Hawai'i sy'n dangos yr ataliad rhwng y ddwy /i/.

    Dolenni allanol

    Cyfeiriadau

    Wikiwand in your browser!

    Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

    Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

    Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.